xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4), (6) a (7), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi cael gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig hawl i gael grant newydd at ffioedd na benthyciad at ffioedd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (7), nid oes gan fyfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) sy’n dechrau ar ei gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw A wedi cael gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig—
(a)pan fo’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(b)pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser; ac
(c)pan na fo’r myfyriwr cymwys yn athro neu’n athrawes gymwysedig.
(4) Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(6) a 5(7) a’i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i’r myfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu’r cymwysterau cyfatebol, ni rwystrir y myfyriwr cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o’r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith bod ganddo’r radd anrhydedd honno.
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)os yw’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;
(b)os yw’r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan—
(i)bwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu
(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs presennol; neu
(c)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n gwrs llawnamser.
(6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam.
(7) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr cymwys—
(a)bod y myfyriwr cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â gradd anrhydedd a gafodd y myfyriwr o’r blaen o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac
(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad bod gan y myfyriwr cymwys hawl i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(8) Pan fo paragraff (7) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraffau (9) i (11).
(9) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (7) cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol, yna caiff y myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (7) ar neu ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol, yna caiff y myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â—
(a)blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ynddi; a
(b)blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr wedi ei chwblhau cyn i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad.
(11) Caiff myfyriwr cymwys sy’n ddarostyngedig i benderfyniad o dan baragraff (7) fod â hawl i gael grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw ac eithrio yn unol â pharagraffau (9) a (10), pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol achos penodol.