RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Trosglwyddo statws75.

(1)

Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo o gwrs dysgu o bell dynodedig i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)

pan dderbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)

pan ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)

pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2)

Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)

bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn yr un sefydliad;

(b)

bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)

ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn yr un sefydliad.

(3)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth o dan y Rhan hon y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi arno.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.

(5)

Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar gymorth o dan y Rhan hon y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 68(1)(b) neu reoliad 71 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo.

(6)

Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 68(1)(a) mewn perthynas â’r blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y’u diffinnir yn rheoliad 68.