Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
82.—(1) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd neu fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd na benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(2) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), [F1(b), (ba), (e)], (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y dechreuodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(3) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), [F2(b), (ba), (e)], (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a
(b)nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser nac ychwaith grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(4) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;
(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n [F3dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n] dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
[F4(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;]
(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;
(e)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(f)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(h)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(i)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 82(2) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 31(a)
F2Geiriau yn rhl. 82(3) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 31(b)
F3Geiriau yn rhl. 82(4)(b) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 34
F4Rhl. 82(4)(ba) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 31(c)
Gwybodaeth Cychwyn