Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 17/02/2017.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
92.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys, mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig, hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), mae’r grant rhan-amser ar gyfer gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd i gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi, a hynny ar gyfer—
(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau; neu
(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.
(3) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn—
(a)os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(2);
(b)os oes ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant); neu
(c)os oes gan bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys hawlogaeth i gael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.
(4) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth y mae myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys ar ei gyfer o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.
(5) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae’n mynd iddynt yn cael eu talu neu os ydynt i’w talu gan y myfyriwr rhan-amser cymwys i’w bartner.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7), (8) a (9), rheoliad 94 a rheoliadau 96 i 98, swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—
(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu
(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael unrhyw grant o’r fath mewn perthynas â phob wythnos sy’n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.
(7) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant—
(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
(b)os yw wythnos yr eir i gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi’r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (6) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu’r canlyniad â saith.
(8) Pan na fo cais myfyriwr rhan-amser cymwys am grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn nodi darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyfyngu ar swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85 y cant o’r costau gofal plant rhagnodedig hyd at uchafswm o £115 yr wythnos; a
(b)cyfyngu ar y taliad o grant rhan-amser ar gyfer gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru barhau i gyfyngu ar y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â pharagraff (8) hyd nes y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cyflwyno manylion y darparwr gofal plant iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 92 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23 ac Atodlen 8, paragraff 1, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, paragraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 ac Atodlen 2, O.S. 2010/1158 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3.
2002 p. 21, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: