ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

Rheoliadau 4, 64, 81 a 110

RHAN 1Dehongli

I11

1

At ddibenion yr Atodlen hon—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—

    1. a

      o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE—

      1. i

        priod y person neu ei bartner sifil;

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

    2. b

      o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

      1. i

        priod y person neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

    3. c

      o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

      1. i

        priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

    4. d

      o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

      1. i

        priod neu bartner sifil y gwladolyn;

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;

    5. e

      o ran gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

      1. i

        priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

  • ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 199998 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE—

    1. a

      sy’n weithiwr yng Nghymru; a

    2. b

      sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    1. a

      yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

    ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

    1. a

      o ran gwladolyn o’r AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

    2. b

      o ran gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sydd—

    1. a

      yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir(“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    1. a

      yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

    mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 197199.

2

At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

3

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

a

y cwrs presennol, y cwrs dysgu o bell presennol, y cwrs rhan-amser presennol neu’r cwrs ôl-radd presennol; neu

b

gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â’r cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (a),

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio’n arferol yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

4

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe byddai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

a

A;

b

priod neu bartner sifil A;

c

rhiant A; neu

d

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth a ffurfir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

5

At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

a

yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu’r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o’r cyfryw luoedd; a

b

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o’r cyfryw luoedd.

c

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o’r cyfryw luoedd.

6

At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

a

nad oedd gynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

b

sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r ardaloedd hyn,

i’w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

7

At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod carcharor cymwys yn preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

I22

1

Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

b

yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

c

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I33

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

d

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoeddI44

1

Person—

a

sy’n ffoadur;

b

sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur; ac

c

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur;

b

oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

c

sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

d

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

b

ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

c

oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

d

sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

e

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoeddI55

1

Person—

a

sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

b

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

c

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;

c

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

d

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches,

yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

c

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;

d

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd

I66

1

Person—

a

sydd—

i

yn weithiwr mudol o’r EEA neu yn berson hunangyflogedig o’r EEA;

ii

yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

iii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

iv

yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunangyflogedig ffin yr EEA;

v

yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu’n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

vi

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I77

Person sydd—

a

yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb100, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arallI88

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio’n barhaol, os yw’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Gwladolion o’r UE

I99

1

Person—

a

sydd naill ai—

i

yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sydd yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu

ii

yn aelod o deulu person o’r fath;

b

sydd—

i

yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

ii

yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

c

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

3

Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

4

At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I1010

1

Person—

a

sy’n wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

2

Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Plant gwladolion SwisaiddI1111

Person—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Plant gweithwyr TwrcaiddI1212

Person—

a

sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

b

sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy’r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.