Rheoliadau 5, 66 a 83
ATODLEN 2LL+CCYRSIAU DYNODEDIG
1. Cwrs gradd gyntaf.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
2. Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
3. Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—LL+C
(a)Cyngor Addysg Busnes a [F1Thechnoleg]; neu
(b)Awdurdod Cymwysterau’r Alban.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 2 para. 3(a) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 15 (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
4. Cwrs ar gyfer tystysgrif Addysg Uwch.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
5. Cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
6. Cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
7. Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol—LL+C
(a)yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu’r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu
(b)yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu’r llall o’r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,
nad yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
8. Cwrs—LL+C
(a)sy’n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon yn uwch na safon cyrsiau sy’n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o’r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 7(a) neu (b) ond heb fod yn uwch na chwrs gradd gyntaf; a
(b)nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)