xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 55

ATODLEN 5LL+CASESIAD ARIANNOL

DiffiniadauLL+C

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

(b)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

(c)mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(d)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

(e)ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

(f)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(g)ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(h)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’n briod iddo os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a’i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’n bartner sifil iddo os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a’i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(i)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol ac eithrio rhiant arall i’r myfyriwr cymwys—

(i)priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai’n briod â’r rhiant;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai’n bartner sifil i’r rhiant;

(j)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(k)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(l)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;

(m)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd) ac incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), sef incwm sy’n weddill ar ôl didynnu treth incwm; ac

(n)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 4, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6) o baragraff 5) â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw—

(i)cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(1), ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(2) (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;

(ii)cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm y person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5),

ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall, yn cael ei ddiystyru.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(3) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno(4) neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(5) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyriwr cymwys annibynnolLL+C

2.—(1Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol ym mhob achos—

(a)pan fo’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b)pan fo’r myfyriwr cymwys yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

(c)pan nad oes gan y myfyriwr cymwys riant yn fyw;

(d)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na ellir dod o hyd i’r naill neu’r llall o rieni’r myfyriwr cymwys neu nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall ohonynt;

(e)pan nad yw’r myfyriwr cymwys wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

(f)os bu’r myfyriwr cymwys yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn ôl y digwydd, adran 22 o Ddeddf Plant 1989(6) a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;

(g)os yw rhieni’r myfyriwr cymwys yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni naill ai—

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8;

(h)pan fo paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae’r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai’r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(i)pan fo’r myfyriwr cymwys yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(j)pan fo’r myfyriwr cymwys (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi cynnal ei hun o’i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda’i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff rhaid trin A fel pe bai’n cynnal ei hun o’i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

(i)pan oedd A yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi’r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau’r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(ii)pan oedd A yn cael budd-dal sy’n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i’w gyflogi ond sy’n ddi-waith;

(iii)pan oedd A ar gael i’w gyflogi a’i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau’r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;

(iv)pan oedd gan A efrydiaeth y wladwriaeth(7) neu ddyfarniad tebyg; neu

(v)pan oedd A yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

(2Mae myfyriwr cymwys sy’n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(j) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw’r statws hwnnw tra pery’r cyfnod cymhwystra.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Incwm yr aelwydLL+C

3.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd yw’r canlynol—

(a)yn achos myfyriwr cymwys nad yw’n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi ei agregu gydag incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(10)); ac—

(i)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar y cwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (ac eithrio partner o fewn ystyr paragraff 1(i)(iv)) rhiant y myfyriwr cymwys newydd (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(10)); neu

(ii)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr cymwys newydd (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(10));

(b)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys annibynnol wedi ei gyfuno gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys annibynnol (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(c)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys annibynnol.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae’r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—

(a)am bob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

(b)am bob plentyn ac eithrio’r myfyriwr cymwys sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

(4Er mwyn cyfrifo’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy’n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy’n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy’n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy’n rhiant neu bartner y myfyriwr sy’n rhiant neu’r ddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwysLL+C

4.—(1At ddiben pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r paragraffau a ganlyn—

(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw’r tâl hwnnw’n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi ei ryddhau o’i ddyletswyddau arferol at ddiben bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(8), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae’n cael ei ddiystyru i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Os yw’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddiben y paragraff hwn yw—

(a)os yw’r myfyriwr cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr cymwys felly;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd gyfartalog ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo, a gyhoeddir gan CThEM(9) ar gyfer y flwyddyn galendr a ddaw i ben cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiantLL+C

5.—(1At ddibenion pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn), didynnir o incwm trethadwy A gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau a ganlyn (onis didynnwyd eisoes wrth bennu incwm trethadwy person)—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

(c)pan fo A yn fyfyriwr sy’n rhiant neu pan fo gan A ddyfarniad statudol, £1,130.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol” yn y paragraff hwn), yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gynharach, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(3Os digwydd bod is-baragraff (2) neu’r is-baragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol, a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod yn ddim mwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, asesu incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol A o dan is-baragraff (2), neu, pan fo’n gymwys, o dan is-baragraff (3), a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(5Os yw A’n bodloni Gweinidogion Cymru fod incwm A yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—

(a)nad yw A’n preswylio neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd gyfartalog a gyhoeddir gan CThEM ar gyfer y flwyddyn galendr a ddaw i ben cyn diwedd y flwyddyn ariannol gynharach..

(8Os bydd farw un o rieni’r myfyriwr cymwys naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi ei gymryd i ystyriaeth at ddiben pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi ei gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—

(a)os yw’r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

(b)os yw’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol sy’n weddill ar ôl i’r rhiant arall farw.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm pa un bynnag o’r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu mai ef yw’r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

(10Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni’n gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol pan fydd y rhieni ar wahân; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwysLL+C

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o’r paragraff hwn, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5 (a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5), gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a’i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â’r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a’i bartner heb wahanu.

(4Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiantLL+C

7.  Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo cyfraniad – myfyrwyr cymwysLL+C

8.—(1Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £50,753, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,753; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,753 neu lai, dim.

(2Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr carfan 2011, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £50,448, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,448; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,448 neu lai, dim.

(3Rhaid i’r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

(4Caniateir addasu’r cyfraniad yn unol â pharagraff 9.

(5Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i swm cyfanredol y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

(6Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu ragor o fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â’r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a’i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfraniadau holltLL+C

9.  Pan fo’r un incwm aelwyd yn cael ei ddefnyddio i asesu swm y dyfarniad statudol y mae gan ddau neu fwy o bersonau hawl i’w gael, rhennir y cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â’r myfyriwr cymwys â nifer y personau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10, Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2) a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 17, paragraff 19.

(2)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(3)

1973 p. 18; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16.

(4)

Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3 a Deddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlen 6, paragraffau 1 a 6 ac Atodlen 11, Rhan 4.

(5)

2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934 a diwygiwyd paragraff 30 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.

(6)

1989 p. 41; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38), adran 116(2), Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 52, Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adran 39 ac Atodlen 3, Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 99 ac O.S. 2016/413 (Cy. 131).

(7)

Darperir cyllid gan y Cynghorau Ymchwil o ran astudio ôl-radd llawnamser.

(8)

2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.