Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy partner (“A” yn y paragraff hwn) myfyriwr rhan-amser cymwys, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i’w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly odano neu odani; neu

(c)o dan is-baragraff (2),

beidio â chael eu gwneud na’u caniatáu.

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) swm cyfanredol unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw rai o’r paragraffau a ganlyn—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol” yn y paragraff hwn) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod, ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod, yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn academaidd o’i gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi, drwy gymryd mai incwm gweddilliol A yw cyfartaledd incwm gweddilliol A am bob un o’r blynyddoedd ariannol y mae’r flwyddyn academaidd honno’n digwydd ynddynt.

(5Os yw A yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—

(a)nad yw A’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd gyfartalog a gyhoeddir gan CThEM ar gyfer y flwyddyn galendr a ddaw i ben cyn diwedd y flwyddyn ariannol gynharach.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir incwm y partner i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1), ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â nifer yr wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol pan nad oedd y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner, yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu.

(10Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.