ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

Rheoliadau 4, 64, 81 a 110

RHAN 1Dehongli

I11

1

At ddibenion yr Atodlen hon—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—

    1. a

      o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE—

      1. i

        priod y person neu ei bartner sifil;

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

    2. b

      o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

      1. i

        priod y person neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

    3. c

      o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

      1. i

        priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

    4. d

      o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

      1. i

        priod neu bartner sifil y gwladolyn;

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;

    5. e

      o ran gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

      1. i

        priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

  • ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 199998 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE—

    1. a

      sy’n weithiwr yng Nghymru; a

    2. b

      sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    1. a

      yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

    ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

    1. a

      o ran gwladolyn o’r AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

    2. b

      o ran gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sydd—

    1. a

      yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir(“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    1. a

      yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

    mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 197199.

2

At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

3

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

a

y cwrs presennol, y cwrs dysgu o bell presennol, y cwrs rhan-amser presennol neu’r cwrs ôl-radd presennol; neu

b

gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â’r cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (a),

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio’n arferol yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

4

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe byddai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

a

A;

b

priod neu bartner sifil A;

c

rhiant A; neu

d

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth a ffurfir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

5

At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

a

yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu’r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o’r cyfryw luoedd; a

b

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o’r cyfryw luoedd.

c

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o’r cyfryw luoedd.

6

At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

a

nad oedd gynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

b

sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r ardaloedd hyn,

i’w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

7

At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod carcharor cymwys yn preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

I22

1

Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

b

yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

c

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I33

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

d

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoeddI44

1

Person—

a

sy’n ffoadur;

b

sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur; ac

c

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur;

b

oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

c

sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

d

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

b

ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

c

oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

d

sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

e

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoeddI55

1

Person—

a

sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

b

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

c

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;

c

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

d

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches,

yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

c

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;

d

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd

I66

1

Person—

a

sydd—

i

yn weithiwr mudol o’r EEA neu yn berson hunangyflogedig o’r EEA;

ii

yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

iii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

iv

yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunangyflogedig ffin yr EEA;

v

yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu’n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

vi

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I77

Person sydd—

a

yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb100, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arallI88

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio’n barhaol, os yw’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Gwladolion o’r UE

I99

1

Person—

a

sydd naill ai—

i

yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sydd yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu

ii

yn aelod o deulu person o’r fath;

b

sydd—

i

yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

ii

yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

c

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

3

Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

4

At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I1010

1

Person—

a

sy’n wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

2

Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Plant gwladolion SwisaiddI1111

Person—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Plant gweithwyr TwrcaiddI1212

Person—

a

sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

b

sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy’r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 2CYRSIAU DYNODEDIG

Rheoliadau 5, 66 a 83

I131

Cwrs gradd gyntaf.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I142

Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I153

Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

a

Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu

b

Awdurdod Cymwysterau’r Alban.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I164

Cwrs ar gyfer tystysgrif Addysg Uwch.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I175

Cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I186

Cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I197

Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol—

a

yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu’r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu

b

yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu’r llall o’r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,

nad yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I208

Cwrs—

a

sy’n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon yn uwch na safon cyrsiau sy’n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o’r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 7(a) neu (b) ond heb fod yn uwch na chwrs gradd gyntaf; a

b

nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 3GWYBODAETH

Rheoliadau 11, 74, 101 a 116

I211

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I222

Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi’r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn digwydd—

a

y ceisydd neu fyfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel oddi arno;

b

y ceisydd neu fyfyriwr yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;

c

y ceisydd neu fyfyriwr yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’i gwrs ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw’n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

d

y ceisydd neu fyfyriwr yn absennol o’i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

e

bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;

f

bod cyfeiriad neu rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor, y ceisydd neu fyfyriwr, yn newid.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I233

Rhaid i’r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy’n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru fodloni’r gofyniad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Rheoliad 54

Y benthyciadau at ffioedd coleg sydd ar gael

I241

Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â’r Atodlen hon.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I252

Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw’r person yn bodloni’r amodau a ganlyn—

a

bod y person yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;

b

bod gan y person radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

c

bod y person yn cymryd cwrs cymhwysol a bod y person—

i

yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y person yn parhau i ddilyn y cwrs ar ôl 31 Awst 2011; neu

ii

yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011;

d

bod y person yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu’n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;

e

bod y person o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac

f

nad oes yr un o’r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys i’r person.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I263

Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n dod o fewn paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw’n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr anablI274

Rhaid trin myfyriwr cymwys anabl sy’n ymgymryd â chwrs cymhwysol yn y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn bresennol arno oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd, fel pe bai’n bresennol ar y cwrs cymhwysol at ddiben bod â hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

I285

Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 6 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

a

caiff myfyriwr fod â hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

b

nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I296

Y digwyddiadau yw—

a

bod y myfyriwr, neu briod, partner sifil neu riant (fel y’i diffinnir ym mharagraff 1 o Atodlen 1) y myfyriwr, yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

c

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

d

bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

e

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

f

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

g

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I307

Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw’n flwyddyn academaidd safonol.

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I318

Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o’r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, at ddiben penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â’r gyntaf o’r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â’r blynyddoedd canlynol o’r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

I329

Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o’r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw’n ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs ac a fyddai’n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Swm y benthyciad at ffioedd colegI3310

1

Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy’n hafal i’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan y myfyriwr cymhwysol i’w goleg neu i’w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

2

Os yw’r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael.

Annotations:
Commencement Information
I33

Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

TrosglwyddoI3411

Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—

a

rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i’r cwrs arall ar gais y myfyriwr cymhwysol oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (c) os yw’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo iddo, os bodlonir yr amodau ym mharagraff 12 ac os na fydd gan y myfyriwr cymhwysol hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno;

c

os yw’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo ar ôl i’r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae’n trosglwyddo iddo.

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

TaluI3512

1

Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i’w gael i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at ffioedd coleg mewn un cyfandaliad.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad at ffioedd coleg—

a

cyn eu bod wedi cael cais am daliad mewn ysgrifen, a ystyrir yn gais dilys gan Weinidogion Cymru, oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol; a

b

cyn bod cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

4

Mae’n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd nes eu bod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu’r neuadd breifat berthnasol, oni fyddant yn penderfynu, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb.

6

Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yr un ystyr ag yn rheoliad 63.

7

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol—

a

os bydd y myfyriwr cymhwysol cyn i’r cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben yn rhoi’r gorau i fynychu’r cwrs neu yn achos myfyriwr y bernir ei fod yn bresennol o dan baragraff 4, yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’r cwrs; a

b

os bydd y coleg neu’r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu neu, yn ôl y digwydd, yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd colegI3613

1

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg bod yn rhaid i’r myfyriwr cymhwysol roi iddynt rif ei yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

2

Os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o’r benthyciad i’r myfyriwr cymhwysol cyn eu bod wedi eu bodloni bod y myfyriwr cymhwysol wedi cydymffurfio â’r amod hwnnw.

3

Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymhwysol os ydynt wedi eu bodloni oherwydd amgylchiadau eithriadol y byddai’n briodol gwneud taliad o’r fath heb fod y myfyriwr cymhwysol wedi cydymffurfio â’r amod a osodwyd o dan is-baragraff (1).

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Gofynion gwybodaethI3714

1

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am wybodaeth y maent yn ystyried bod ei hangen i adennill benthyciad.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymhwysol ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

3

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.

4

Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad nes i’r person ddarparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu roi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.

5

Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o dalu o dan y paragraff hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd coleg nes i’r person ddarparu yr hyn y gofynnwyd amdano.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

GordaliadauI3815

Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol.

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Rheoliad 55

DiffiniadauI391

1

Yn yr Atodlen hon—

a

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

b

mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

c

mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

d

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

e

ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

f

ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

g

ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;

h

ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—

i

priod myfyriwr cymwys;

ii

partner sifil myfyriwr cymwys;

iii

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’n briod iddo os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a’i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

iv

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’n bartner sifil iddo os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a’i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

i

ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol ac eithrio rhiant arall i’r myfyriwr cymwys—

i

priod rhiant myfyriwr cymwys;

ii

partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

iii

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai’n briod â’r rhiant;

iv

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai’n bartner sifil i’r rhiant;

j

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

k

ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

l

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;

m

ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd) ac incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), sef incwm sy’n weddill ar ôl didynnu treth incwm; ac

n

ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 4, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6) o baragraff 5) â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw—

i

cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007101, ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003102 (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;

ii

cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

iii

os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm y person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5),

ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall, yn cael ei ddiystyru.

2

Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973103 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno104 neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004105 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyriwr cymwys annibynnolI402

1

Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol ym mhob achos—

a

pan fo’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

b

pan fo’r myfyriwr cymwys yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

c

pan nad oes gan y myfyriwr cymwys riant yn fyw;

d

pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na ellir dod o hyd i’r naill neu’r llall o rieni’r myfyriwr cymwys neu nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall ohonynt;

e

pan nad yw’r myfyriwr cymwys wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

f

os bu’r myfyriwr cymwys yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn ôl y digwydd, adran 22 o Ddeddf Plant 1989106 a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;

g

os yw rhieni’r myfyriwr cymwys yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni naill ai—

i

y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

ii

na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8;

h

pan fo paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae’r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai’r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

i

pan fo’r myfyriwr cymwys yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

j

pan fo’r myfyriwr cymwys (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi cynnal ei hun o’i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda’i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff rhaid trin A fel pe bai’n cynnal ei hun o’i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

i

pan oedd A yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi’r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau’r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

ii

pan oedd A yn cael budd-dal sy’n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i’w gyflogi ond sy’n ddi-waith;

iii

pan oedd A ar gael i’w gyflogi a’i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau’r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;

iv

pan oedd gan A efrydiaeth y wladwriaeth107 neu ddyfarniad tebyg; neu

v

pan oedd A yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

2

Mae myfyriwr cymwys sy’n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(j) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw’r statws hwnnw tra pery’r cyfnod cymhwystra.

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Incwm yr aelwydI413

1

Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

2

Incwm yr aelwyd yw’r canlynol—

a

yn achos myfyriwr cymwys nad yw’n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi ei agregu gydag incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(10)); ac—

i

yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar y cwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (ac eithrio partner o fewn ystyr paragraff 1(i)(iv)) rhiant y myfyriwr cymwys newydd (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(10)); neu

ii

yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr cymwys newydd (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(10));

b

yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys annibynnol wedi ei gyfuno gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys annibynnol (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

c

yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys annibynnol.

3

Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae’r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—

a

am bob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

b

am bob plentyn ac eithrio’r myfyriwr cymwys sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

4

Er mwyn cyfrifo’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy’n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy’n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy’n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy’n rhiant neu bartner y myfyriwr sy’n rhiant neu’r ddau.

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwysI424

1

At ddiben pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r paragraffau a ganlyn—

a

unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw’r tâl hwnnw’n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi ei ryddhau o’i ddyletswyddau arferol at ddiben bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

b

swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004108, neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm.

2

Os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae’n cael ei ddiystyru i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

3

Os yw’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddiben y paragraff hwn yw—

a

os yw’r myfyriwr cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr cymwys felly;

b

fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd gyfartalog ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo, a gyhoeddir gan CThEM109 ar gyfer y flwyddyn galendr a ddaw i ben cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiantI435

1

At ddibenion pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn), didynnir o incwm trethadwy A gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau a ganlyn (onis didynnwyd eisoes wrth bennu incwm trethadwy person)—

a

swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

b

mewn unrhyw achos pan fo incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

c

pan fo A yn fyfyriwr sy’n rhiant neu pan fo gan A ddyfarniad statudol, £1,130.

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol” yn y paragraff hwn), yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gynharach, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

3

Os digwydd bod is-baragraff (2) neu’r is-baragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol, a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod yn ddim mwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, asesu incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

4

Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol A o dan is-baragraff (2), neu, pan fo’n gymwys, o dan is-baragraff (3), a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

5

Os yw A’n bodloni Gweinidogion Cymru fod incwm A yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.

6

Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—

a

nad yw A’n preswylio neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

b

nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

c

bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

7

Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd gyfartalog a gyhoeddir gan CThEM ar gyfer y flwyddyn galendr a ddaw i ben cyn diwedd y flwyddyn ariannol gynharach..

8

Os bydd farw un o rieni’r myfyriwr cymwys naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi ei gymryd i ystyriaeth at ddiben pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi ei gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—

a

os yw’r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

b

os yw’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—

i

y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

ii

y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol sy’n weddill ar ôl i’r rhiant arall farw.

9

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm pa un bynnag o’r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu mai ef yw’r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

10

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni’n gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

a

y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol pan fydd y rhieni ar wahân; a

b

y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwysI446

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o’r paragraff hwn, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5 (a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5), gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a’i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

3

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â’r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a’i bartner heb wahanu.

4

Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiantI457

Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo cyfraniad – myfyrwyr cymwysI468

1

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

a

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £50,753, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,753; a

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,753 neu lai, dim.

2

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr carfan 2011, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

a

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £50,448, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,448; a

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,448 neu lai, dim.

3

Rhaid i’r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

4

Caniateir addasu’r cyfraniad yn unol â pharagraff 9.

5

Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i swm cyfanredol y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

6

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu ragor o fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â’r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

b

os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a’i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfraniadau holltI479

Pan fo’r un incwm aelwyd yn cael ei ddefnyddio i asesu swm y dyfarniad statudol y mae gan ddau neu fwy o bersonau hawl i’w gael, rhennir y cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â’r myfyriwr cymwys â nifer y personau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 6ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION

Rheoliad 96

DiffiniadauI481

1

Yn yr Atodlen hon—

a

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

b

mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

c

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

d

ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

e

ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;

f

ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—

i

priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

ii

partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

iii

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

iv

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

g

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

h

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;

i

ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff 4 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) a’r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a hwnnw’n incwm a gafwyd ar ôl didynnu treth incwm; a

j

ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 3, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 99 ac, o ran paragraff 4, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) â’r flwyddyn ariannol flaenorol, yw—

i

cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007110, ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003111 (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;

ii

cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

iii

os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm y person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),

ac eithrio bod incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall yn cael ei ddiystyru.

2

Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Incwm yr aelwydI492

1

Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

2

Incwm yr aelwyd—

a

yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys a chanddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei gyfuno gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

b

yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys.

3

Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae’r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr hwnnw.

4

At ddiben cyfrifo’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy’n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy’n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (a) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy’n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner sy’n fyfyriwr cymwys ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy’n rhiant neu bartner y myfyriwr sy’n rhiant neu’r ddau.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwysI503

1

Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall sy’n daladwy o dan bolisi a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004112, neu pan gyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

2

Os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, ni ddiystyrir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach diystyrir ei incwm i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

3

Pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddiben y paragraff hwn yw—

a

os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr rhan-amser cymwys fel hyn;

b

fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd gyfartalog y ceir yr incwm ynddo, a gyhoeddir gan CThEM ar gyfer y flwyddyn galendr a ddaw i ben cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol113.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwysI514

1

Er mwyn pennu incwm trethadwy partner (“A” yn y paragraff hwn) myfyriwr rhan-amser cymwys, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i’w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—

a

ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;

b

yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly odano neu odani; neu

c

o dan is-baragraff (2),

beidio â chael eu gwneud na’u caniatáu.

2

Er mwyn pennu incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) swm cyfanredol unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw rai o’r paragraffau a ganlyn—

a

swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.

3

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol” yn y paragraff hwn) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

4

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod, ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod, yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn academaidd o’i gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi, drwy gymryd mai incwm gweddilliol A yw cyfartaledd incwm gweddilliol A am bob un o’r blynyddoedd ariannol y mae’r flwyddyn academaidd honno’n digwydd ynddynt.

5

Os yw A yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.

6

Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—

a

nad yw A’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

b

nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

c

bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

7

Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd gyfartalog a gyhoeddir gan CThEM ar gyfer y flwyddyn galendr a ddaw i ben cyn diwedd y flwyddyn ariannol gynharach.

8

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir incwm y partner i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

9

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1), ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â nifer yr wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol pan nad oedd y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner, yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu.

10

Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo’r cyfraniadI525

1

Mae’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys fel a ganlyn—

a

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £39,793, £1 am bob £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £39,793; a

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.

2

Rhaid i’r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

3

Caniateir i’r cyfraniad gael ei addasu’n unol â pharagraff 6.

4

Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

5

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os cyfansoddir incwm yr aelwyd o incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys, a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfraniadau holltI536

Os defnyddir yr un incwm aelwyd i asesu swm dyfarniad statudol y mae gan ddau neu ragor o bersonau hawl i’w gael, rhennir y cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â’r myfyriwr rhan-amser cymwys â’r nifer hwnnw o bersonau.