xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
24 Mawrth 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Mawrth 2017
Coming into force
5 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986(1) i unrhyw Weinidog a awdurdodir, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol a grybwyllir yn adran 42(1)(2) o’r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt(3), i adennill costau yr aed iddynt gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy(4); ac a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cymwys gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(5), sef pwerau sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(6), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)ymchwiliad lleol; a
(b)unrhyw berson a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal gweithdrefn gymwys.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i’r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(7); ac
ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan Weinidogion Cymru yr hawl i adennill eu costau mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau)(8) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).
2. Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol ac adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys—
(a)sy’n agor ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2018 yw £508;
(b)sy’n agor ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2019 yw £513; ac
(c)sy’n agor ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny yw £518.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau a bennir yn y tabl yn yr Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011(9) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag ymchwiliad lleol neu weithdrefn gymwys yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo neu iddi ac a agorodd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, ac sy’n parhau ar ôl y dyddiad hwnnw.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2017
Rheoliad 3
Y Rheoliadau a ddirymir | Cyfeirnod |
---|---|
Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) 1994 | 1994/642 |
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) 1996 | 1996/24 |
Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) 1998 | 1998/2864 |
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) 1999 | 1999/327 |
Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 | 2011/2415 (Cy. 261) |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu hawdurdodi i adennill costau a ysgwyddwyd ganddynt mewn cysylltiad ag—
(a)ymchwiliadau y mae gan Weinidogion Cymru hawl i adennill eu costau mewn perthynas â hwy o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol y cymhwysir yr adran honno iddynt gan adran 5 o Ddeddf Caffael Tir 1981) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (“ymchwiliadau lleol”); a
(b)gweithdrefnau cymwys fel y’u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol ac ymchwiliadau mewn perthynas ag ystyried gwrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“gweithdrefnau cymwys”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r swm dyddiol safonol y caiff Gweinidogion Cymru ei adennill am bob diwrnod, neu ran o ddiwrnod—
(a)y bydd ymchwiliad lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodir i gynnal yr ymchwiliad lleol fel arall yn gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad hwnnw; neu
(b)y bydd y person a benodir i gynnal gweithdrefn gymwys wrthi’n cynnal y weithdrefn gymwys, neu fel arall yn gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â’r weithdrefn honno.
Y swm dyddiol safonol yw £508 ar gyfer ymchwiliadau lleol a gweithdrefnau cymwys sy’n agor ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2018. Y swm yw £513 ar gyfer ymchwiliadau lleol a gweithdrefnau cymwys sy’n agor ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2019, a £518 ar gyfer ymchwiliadau lleol a gweithdrefnau cymwys sy’n agor ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny. Mae’r symiau hyn yn disodli’r swm o £742 mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol a’r swm o £679 mewn perthynas â gweithdrefnau cymwys a ragnodwyd yn Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”). Darperir manylion pellach ynghylch sut y cyfrifwyd y symiau dyddiol safonol hyn a sut y mae Gweinidogion Cymru i adennill costau yn y Memorandwm Esboniadol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r offerynnau a nodir yn yr Atodlen, gan gynnwys Rheoliadau 2011.
Ceir darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.
Mae’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Diddymwyd adran 42(1)(b) gan adran 3(1) o Ddeddf Crynhoi Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p. 60) a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi. Diddymwyd adran 42(1)(d) gan adran 194(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi. Diddymwyd adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27), y cyfeirir ati yn adran 42(1)(c), gan adran 49(2) o Ddeddf Ymchwiliadau 2005 (p. 12) ac Atodlen 3 iddi.
Mae adran 69(7) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (p. 59) (“Deddf 1991”) yn darparu bod adran 42 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (“Deddf 1986”) yn gymwys pan fo’r naill neu’r llall o “the Ministers” wedi ei awdurdodi gan adran 69(5) o Ddeddf 1991 i adennill costau yr aed iddynt gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad fel y mae’n gymwys pan fo Gweinidog wedi ei awdurdodi yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 a Gorchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794) am ddiffiniad o “the Ministers” h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau 1999”) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
Mae erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy. 5) ac Atodlen 1 iddo, yn darparu i’r swyddogaethau o dan adran 42 o Ddeddf 1986 fod yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron y maent yn arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 303A yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) gan adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 (p. 49) a diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2008 (p. 12). Diwygiwyd adran 303A(5) gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”) a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi. Gweler adran 336 o Ddeddf 1990 i gael ystyr “prescribed”.
Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 303A(5) o Ddeddf 1990 i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Mewnosodwyd adran 303(1A) yn Neddf 1990 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi.
1972 p. 70. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau 1999 ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.