NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 166 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth gael eu gwneud gan gyfuniadau o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.

Gwnaed Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”) o dan y pwerau yn adran 166 a daethant i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth gael eu gwneud gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol penodedig o dan gyfarwyddyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r prif Reoliadau hefyd yn pennu’r swyddogaethau awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu’r swyddogaethau o dan adran 14A o Ddeddf 2014 at y rhestr o swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol a bennir i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 19 o’r prif Reoliadau (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) drwy hepgor rheoliad 19(1)(c) ac ychwanegu rheoliad newydd 19(1A) sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff partneriaeth ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun os ydynt yn penderfynu gwneud pethau ar y cyd mewn ymateb i asesiad o dan adran 14 o Ddeddf 2014 (a adwaenir fel asesiad poblogaeth).

Maent hefyd yn diwygio Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (sy’n pennu swyddogaethau cymorth i deuluoedd timau integredig cymorth i deuluoedd) er mwyn mewnosod cyfeiriad at swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf 2014, i’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion am ofal a chymorth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol a darparu cyngor a chymorth i bobl ifanc sy’n gadael gofal. Mae’r diwygiad hwn yn cywiro hepgoriad o Atodlen 2.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.