xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 52 (Cy. 23)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2017

Gwnaed

21 Ionawr 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Ionawr 2017

Yn dod i rym

3 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1) ac adrannau 9(1), 10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

Diwygiadau

2.  Mae Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) yn cael effaith.

Dirymiadau

3.  Mae Atodlen 2 (dirymiadau) yn cael effaith.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

21 Ionawr 2017

Rheoliad 2

ATODLEN 1Diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975

1.—(1Mae Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthyglau 3(1)(i) a 4(1)(k)—

(a)yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”;

(b)yn lle “Part IV of the Care Standards Act 2000” rhodder “Part 4 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

(3Yn Atodlen 3 (achosion eithriedig), ym mharagraff 18 yn lle “Part IV of the Care Standards Act 2000” rhodder “Part 4 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001

2.—(1Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 53 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy), ym mharagraff (2)(n) yn lle “section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002

3.—(1Mae Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5C (gweithio gyda phlant), ym mharagraff (k) yn lle “Part IV of the Care Standards Act 2000” rhodder “Part 4 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

4.—(1Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig), ym mharagraff (6) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

(3Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth a’r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg neu’n rheoli cartrefi gofal neu’n gweithio ynddynt), ym mharagraff 5A yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

5.—(1Mae Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y testun Saesneg, ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

(3Y darpariaethau yw—

(a)rheoliad 8(2E) (ffitrwydd y rheolwr);

(b)rheoliad 26(2F) a (2G) (ffitrwydd gweithwyr);

(c)Atodlen 2, paragraff 5A (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy’n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un);

(d)Atodlen 4, paragraff 2(h) (cofnodion eraill).

(4Yn y testun Cymraeg—

(a)yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr)—

(i)ailrifer paragraff (2E) yn baragraff (2D);

(ii)ym mharagraff (2D) fel y’i hailrifwyd, yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”;

(b)yn rheoliad 26(2Dd) a (2E) (ffitrwydd gweithwyr), yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”;

(c)yn Atodlen 2, paragraff 5A (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy’n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un) yn lle “Cyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”;

(d)yn Atodlen 4 ar ôl paragraff 2(e) (cofnodion eraill) mewnosoder—

(f)a yw wedi’i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

6.—(1Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

(3Y darpariaethau yw—

(a)Atodlen 1, paragraffau 1(ba), 2(ca) ac 16(ea) (yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi ar gais i gofrestru fel person sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliad neu asiantaeth);

(b)Atodlen 3, paragraffau 2A, 2B a 2C (yr wybodaeth a’r dogfennau sydd i gael eu cyflenwi ar gyfer cofrestru fel rheolwr sefydliad neu asiantaeth).

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002

7.—(1Mae Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002(9) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y tabl yn yr Atodlen, yn lle’r cofnod “Cyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002

8.—(1Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002(10) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen (cyrff cyhoeddus), yn lle “Cyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

9.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

(3Y darpariaethau yw—

(a)rheoliad 10(6) (ffitrwydd y rheolwr);

(b)Atodlen 2, paragraff 6B (yr wybodaeth sy’n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a phersonau sydd wedi’u henwi i ddirprwyo ar gyfer person cofrestredig).

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005

10.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

(3Y darpariaethau yw—

(a)y diffiniad o “social worker” yn rheoliad 2(1) (dehongli);

(b)rheoliad 37(2) (swyddogion adolygu annibynnol).

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

11.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “gweithiwr cymdeithasol” yn lle “Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”.

(3Yn rheoliad 38(2) (swyddogion adolygu annibynnol) yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadu) (Darpariaethau Amrywiol) 2005

12.—(1Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadu) (Darpariaethau Amrywiol) 2005(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “social worker”—

(a)ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “or”;

(b)ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—

; or

(d)the register maintained by Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

13.—(1Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(15) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (pleidlais absennol yn etholiadau’r Cynulliad), ym mharagraff 4 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau ar sail nam difrifol ar y golwg neu anabledd arall), yn is-baragraff (2)(n) yn lle “section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007

14.—(1Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (swyddogion adolygu annibynnol)—

(a)ym mharagraff (2) yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”;

(b)ym mharagraff (3) yn lle “Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”;

(c)ym mharagraff (4), yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”, ac yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwaid Cyhoeddus 2007

15.—(1Mae Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwaid Cyhoeddus 2007(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 8 (personau a gaiff ddarparu tystysgrif atwrneiaeth arhosol), ym mharagraff (4), yn y diffiniad o “registered social worker” yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007

16.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007(18) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “gweithiwr cymdeithasol” rhodder—

“ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi’i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol—

(a)

yn y gofrestr a gynhelir gan Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016; neu

(b)

yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;.

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymeradwyo) (Lloegr) 2008

17.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymeradwyo) (Lloegr) 2008(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “Care Council for Wales”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

“Social Care Wales” has the meaning given by section 67 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;.

(3Yn rheoliad 3(3) (rhoi cymeradwyaeth) yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008

18.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “Cyngor Gofal Cymru”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “Gofal Cymdeithasol Cymru” (“Social Care Wales”) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;.

(3Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (4) yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”, ac yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

(4Y darpariaethau yw—

(a)rheoliad 3(1)(c) (rhoi cymeradwyaeth);

(b)Atodlen 1, paragraff 1(a) (gofynion proffesiynol).

Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) 2009

19.—(1Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) 2009(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “social worker” yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009

20.—(1Mae Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009(22) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “Cyngor Gofal Cymru”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “Gofal Cymdeithasol Cymru” (“Social Care Wales”) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;.

(3Yn rheoliad 5(1)(b) (cymhwystra i gynnal asesiadau lles pennaf) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010

21.—(1Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010(23) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “gweithiwr cymdeithasol” yn lle “Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”.

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Lloegr) 2010

22.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Lloegr) 2010(24) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 46 (cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnol), ym mharagraff (1) yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011

23.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011(25) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 23 (cyfansoddiad ac aelodaeth panel maethu), ym mharagraff (10)(b) yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant gan Sefydliadau Gwirfoddol ac Eraill (Lloegr) 2011

24.—(1Mae Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant gan Sefydliadau Gwirfoddol ac Eraill (Lloegr) 2011(26) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 18 (adolygiadau o achosion plant), ym mharagraff (2) yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011

25.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011(27) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 159 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—

(a)ar ddiwedd paragraff (4)(a)(iv) hepgorer “or”;

(b)ar ôl paragraff (4)(a)(v) mewnosoder—

or

(vi)any allowance, bursary or award of similar description made under section 116(2)(a) of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 which includes payment for meeting additional expenditure incurred by A by reason of A’s disability;.

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011

26.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011(28) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (gofynion proffesiynol), ym mharagraff 1(a) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012

27.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012(29)wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen (gofynion proffesiynol), ym mharagraff 1(a) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012

28.—(1Mae Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012(30) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 (pleidlais absennol mewn etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu), ym mharagraff 15—

(a)yn is-baragraff (2)—

(i)ar ddiwedd paragraff (l) hepgorer “or”,

(ii)ar ddiwedd paragraff (m) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—

, or

(n)a person registered in the register for social workers maintained in accordance with section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.;

(b)yn is-baragraff (3), ym mharagraff (b) yn lle “paragraph (m)” rhodder “paragraph (m) or (n)”.

Gorchymyn Contractio Allan (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol) (Lloegr) 2014

29.—(1Mae Gorchymyn Contractio Allan (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol) (Lloegr) 2014(31) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “registered social worker” yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in a register maintained by Social Care Wales under section 80 (the register) of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016,.

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

30.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015(32) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 115 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—

(a)ar ddiwedd paragraff (4)(a)(iv) hepgorer “or”;

(b)ar ôl paragraff (4)(a)(v) mewnosoder—

(vi)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu.

Rheoliadau’r Comisiwn Ansawdd Gofal (Aelodaeth) 2015

31.—(1Mae Rheoliadau’r Comisiwn Ansawdd Gofal (Aelodaeth) 2015(33) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen (y seiliau dros anghymhwyso), ym mharagraff 29 yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)in Wales, a register maintained under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015

32.—(1Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015(34) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliaid rhag bod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru), yn y tabl—

(a)hepgorer y cofnod am “Cyngor Gofal Cymru”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a nodir yn y tabl a ganlyn—

Y Golofn GyntafYr Ail Golofn
Gofal Cymdeithasol CymruYr holl aelodau

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

33.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(35) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 54(1) (cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnol) yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”.

Rheoliad 3

ATODLEN 2Dirymiadau

Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu.

Y Rheoliadau sydd wedi eu dirymuCyfeirnodau
(1)

Darfu’r Rheoliadau hyn o ran Lloegr yn effeithiol o 1 Awst 2012 (gweler O.S. 2012/1319, erthygl 2(1), (4)).

Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001O.S. 2001/2136 (Cy. 149)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) (Cymru) 2002O.S. 2002/1176 (Cy. 124)
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Cymdeithasol o dan Hyfforddiant) (Cofrestru) 2004O.S. 2004/709 (Cy. 76)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) (Cymru) 2004O.S. 2004/711 (Cy. 78)
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004O.S. 2004/2880 (Cy. 250)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Cofrestrau Perthnasol o Weithwyr Cymdeithasol) 2005(1)O.S. 2005/491
Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2012O.S. 2012/3023 (Cy. 307)

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) ac yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i gychwyn Rhannau 2 i 11 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 3 o’r Ddeddf (Gofal Cymdeithasol Cymru) yn darparu ar gyfer parhad y corff corfforaethol a elwir Cyngor Gofal Cymru (a sefydlwyd gan adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000), mae’n ailenwi’r corff hwnnw ac yn ailddatgan ac yn addasu swyddogaethau gwreiddiol y corff ac yn rhoi iddo swyddogaethau ychwanegol.

Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn pennu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei dirymu gan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

O.S. 1975/1023. Diwygiwyd erthygl 3(1)(i) gan erthyglau 2 a 5 o O.S. 2012/1957. Mewnosodwyd erthygl 4(1)(k) gan erthyglau 2 a 7 o O.S. 2003/967 ac fe’i diwygiwyd gan erthyglau 2 a 5 o O.S. 2012/1957. Mewnosodwyd paragraff 18 o Atodlen 3 gan erthyglau 2 a 13 o O.S. 2003/965.

(4)

O.S. 2001/341, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(5)

O.S. 2002/233, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/955; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 2002/324 (Cy. 37), diwygiwyd rheoliad 9 a mewnosodwyd paragraff 5A yn Atodlen 2 gan O.S. 2011/1016 (Cy. 153); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 2002/327 (Cy. 40), amnewidiwyd rheoliad 8(2E) gan O.S. 2009/2541 (Cy. 205); mewnosodwyd paragraffau (2A) i (2E) yn rheoliad 26, mewnosodwyd paragraff 5A yn Atodlen 2 a mewnosodwyd paragraff 2(h) yn Atodlen 4 gan O.S. 2007/311 (Cy. 28).

(8)

O.S. 2002/919 (Cy. 107), mewnosodwyd paragraff 16(ea) yn Atodlen 1 a mewnosodwyd paragraff 2A yn Atodlen 3 gan O.S. 2007/311 (Cy. 28); mewnosodwyd paragraff 1(ba) a 2(ca) yn Atodlen 1 a mewnosodwyd paragraff 2B yn Atodlen 3 gan O.S. 2011/1016 (Cy. 153) a mewnosodwyd paragraff 2C yn Atodlen 3 gan O.S. 2013/225 (Cy. 30). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(9)

O.S. 2002/1441 (Cy. 145), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(11)

O.S. 2004/219 (Cy. 23), mewnosodwyd rheoliad 10(6) a mewnosodwyd paragraff 6B yn Atodlen 2 gan O.S. 2013/225 (Cy. 30); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(12)

O.S. 2005/389, diwygiwyd y diffiniad o “social worker” yn rheoliad 2(1) a diwygiwyd rheoliad 37(2) gan O.S. 2012/1479, mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(13)

O.S. 2005/1313 (Cy. 95), diwygiwyd y diffiniad o “gweithiwr cymdeithasol” yn rheoliad 2 gan O.S. 2012/1479; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(15)

O.S. 2007/236 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(16)

O.S. 2007/307 (Cy. 26), diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2012/1479.

(17)

O.S. 2007/1253, diwygiwyd rheoliad 8 gan O.S. 2012/1479.

(18)

O.S. 2007/1357 (Cy. 128) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(19)

O.S. 2008/1206, diwygiwyd rheoliadau 2 a 3 gan O.S. 2012/1479, mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(20)

O.S. 2008/2436 (Cy. 209), Diwygiwyd Atodlen 1 gan O.S. 2012/1479, mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(21)

O.S. 2009/395. Diwygiwyd y diffiniad o “social worker” yn rheoliad 2 gan O.S. 2012/1479; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(22)

O.S. 2009/783 (Cy. 69). Diwygiwyd rheoliad 5 gan O.S. 2012/1479.

(23)

O.S. 2010/746 (Cy. 75). Diwygiwyd y diffiniad o “gweithiwr cymdeithasol” yn rheoliad 2 gan O.S. 2012/1479.

(24)

O.S. 2010/959, a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/1479.

(25)

O.S. 2011/581, a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/1479.

(26)

O.S. 2011/582, a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/1479; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(27)

O.S. 2011/1986, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(30)

O.S. 2012/1917, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(31)

O.S. 2014/829, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(33)

O.S. 2015/1479, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.