RHAN 1Cyffredinol
Dehongli3
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “achosion cyfunol” (“combined proceedings”) yw achosion sy’n cyfuno dau neu ragor o’r canlynol—
- a
sylwadau ysgrifenedig;
- b
gwrandawiad;
- c
ymchwiliad;
ystyr “apêl” (“appeal”) yw—
- a
penderfynu ar gais atgyfeiriedig; a
- b
apêl a wneir o dan adrannau 78, 174, 195, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 20 neu 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;
ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais deiliad tŷ, ond nid yw’n cynnwys—
- a
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
- b
apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais masnachol bach, ond nid yw’n cynnwys—
- a
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
- b
apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
- a
ystyr “apêl gorfodi” (“enforcement appeal”) yw apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi;
ystyr “apêl ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb” (“advertisment consent appeal”) yw apêl o dan adran 78(1) o’r Ddeddf Gynllunio (fel y’i cymhwysir drwy reoliadau a wnaed o dan adran 220 o’r Ddeddf Gynllunio) mewn perthynas â chais i arddangos hysbyseb, ac eithrio apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd a roddir yn ddarostyngedig i amodau;
ystyr “apelydd” (“appellant”), yn achos—
- a
cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person a gyflwynodd y cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio lleol;
- b
apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person y gwrthodwyd ei gais, y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau (ac eithrio apelau ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb, apelau deiliad tŷ ac apelau masnachol bach) neu’r person nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol;
- c
apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;
- d
apêl o dan adran 195 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person y gwrthodwyd ei gais o dan adran 191 o’r Ddeddf honno;
- e
apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;
- f
apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;
- g
apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;
ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”), mewn perthynas ag—
- a
cais atgyfeiriedig, yw’r corff a fyddai wedi ymdrin â’r cais pe na bai wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru;
- b
apêl o dan adrannau 78 neu 195 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu ar y cais sy’n achosi’r apêl;
- c
apêl o dan adrannau 174, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r corff a ddyroddodd yr hysbysiad sy’n achosi’r apêl;
- a
ystyr “cais atgyfeiriedig” (“referred application”), mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ac adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru, ond nid yw’n cynnwys cais y bernir ei fod wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau 20125;
ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais ar gyfer—
- a
caniatâd cynllunio ar gyfer ehangu tŷ annedd, gwella tŷ annedd neu newid arall i dŷ annedd, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu
- b
newid defnydd i ehangu cwrtil tŷ annedd,
- a
at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—
- i
unrhyw gais arall am newid defnydd,
- ii
cais i godi tŷ annedd, neu
- iii
cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;
- i
ystyr “cais i arddangos hysbyseb” (“advertisement application”) yw cais am ganiatâd datganedig i arddangos hysbyseb a wneir o dan Ran 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 19926;
ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio i ehangu, gwella neu wneud newid arall i adeilad presennol sydd ag arwynebedd llawr gros allanol ar lefel y llawr daear nad yw’n fwy na 250 metr sgwâr, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn sy’n gais ar gyfer—
- a
newid defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn naill ai paragraff 2 neu baragraff 3 o’r Atodlen honno;
- b
newid defnydd o unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu
- c
gwneud gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;
- a
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20007;
y “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod o 6 wythnos sy’n cychwyn â’r dyddiad dechrau;
mae i “datganiad achos llawn” (“full statement of case”)—
- a
mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi, yr ystyr a roddir yn—
- i
erthygl 2 o Orchymyn 2012;
- ii
rheoliad 2 o Reoliadau 2012;
- iii
rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
- iv
adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan III o Atodlen 4 iddynt;
- v
adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan V o Atodlen 4 iddynt;
- vi
adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan erthygl 7 o’r Atodlen (Ffurf Gorchymyn Cadw Coed) i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 19998 a Rhan I o Atodlen 2 i’r Atodlen honno;
- i
- b
mewn perthynas ag apelau gorfodi—
- i
yn achos apêl yn erbyn hysbysiad o dan adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yr ystyr a roddir yn adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio fel y’i haddaswyd gan reoliad 16 o Reoliadau 2015, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt;
- ii
ym mhob achos arall, yr ystyr a ganlyn, sef y datganiad achos llawn a gyflwynir gan yr apelydd o dan reoliadau 8, 9 neu 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 20179;
- i
- c
yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—
- i
datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
- ii
copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;
- i
- d
yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau gorfodi—
- i
datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys—
- aa
ymateb i bob un o seiliau’r apêl a bledir gan yr apelydd;
- bb
mynegiad ynghylch pa un a fyddai’r awdurdod cynllunio lleol yn fodlon rhoi—
- bba
caniatâd cynllunio ar gyfer y materion yr honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio;
- bbb
caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu’r hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn ymwneud ag ef, yn ôl y digwydd;
- bbc
caniatâd sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faint o sylweddau peryglus ar y tir, dros y tir neu o dan y tir y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef;
- bba
- cc
manylion yr amodau, os oes rhai, y byddent yn dymuno eu gosod ar unrhyw ganiatâd neu gydsyniad y byddent yn fodlon ei roi;
- dd
manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
- aa
- ii
copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;
- i
- a
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 201510;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) yw drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;
ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 15 (hysbysu ynghylch cael apêl);
ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “y Ddeddf Sylweddau Peryglus” (“the Hazardous Substances Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;
ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 201211;
ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen ar y ffurf a gyflenwir gan Weinidogion Cymru i awdurdod cynllunio lleol at ddiben unrhyw achosion o dan y Rheoliadau hyn, ac at y diben hwn, tybir bod ffurf wedi ei chyflenwi pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol—
- a
bod y ffurf wedi ei chyhoeddi ar y wefan;
- b
am gyfeiriad y wefan; ac
- c
ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y ffurf a sut y gellir cael mynediad ati;
- a
ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad o dan—
- a
adran 172(1) o’r Ddeddf Gynllunio;
- b
adran 182(1) o’r Ddeddf Gynllunio;
- c
adran 38(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu hysbysiad o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno;
- d
adran 46(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
- e
adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;
- f
adran 207(1) o’r Ddeddf Gynllunio;
- g
adran 215(1) o’r Ddeddf Gynllunio;
- a
ystyr “hysbysiad peidio â pharhau” (“discontinuance notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 8 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992;
ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl neu i gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru12;
ystyr “personau â buddiant” (“interested persons”)—
- a
mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—
- i
yw unrhyw berson a hysbysir neu yr ymgynghorir ag ef yn unol â’r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y Ddeddf Sylweddau Peryglus, gorchymyn neu reoliadau datblygu, yn ôl y digwydd, ynghylch y cais; a
- ii
unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau i’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch y cais hwnnw;
- i
- b
mewn perthynas ag apelau gorfodi a hysbysiadau peidio â pharhau, yw meddianwyr eiddo yn ardal leol y safle y mae’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad peidio â pharhau yn ymwneud ag ef; ac
- c
mewn perthynas ag apelau gorfodi ac eithrio apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed, yw unrhyw berson (ac eithrio’r sawl y cyflwynir yr hysbysiad gorfodi iddo) sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol neu’r awdurdod sylweddau peryglus, yn cael ei effeithio gan y materion a honnir yn yr hysbysiad gorfodi;
- a
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 201213;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 201514;
mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau;
mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol;
ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn neu, pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 7, unrhyw derfyn amser diweddarach; a
nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau, na fflat sydd wedi ei gynnwys o fewn adeilad o’r fath.
2
Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig—
a
mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau electronig;
b
mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y fath ddogfennau, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.