RHAN 6Ymchwiliadau

Hysbysiad cyhoeddus ynghylch ymchwiliad

43.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd un neu ragor o’r camau a ganlyn—

(a)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, gosod hysbysiad ynghylch yr ymchwiliad, a chynnal yr hysbysiad hwnnw—

(i)mewn man amlwg, neu mor agos ag y bo’n rhesymol ymarferol at y tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;

(ii)mewn un neu ragor o fannau lle y gosodir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

(b)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, cyhoeddi hysbysiad ynghylch yr ymchwiliad drwy hysbyseb leol yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

(c)anfon hysbysiad ynghylch y gwrandawiad at y fath bersonau neu ddosbarthiadau o bersonau a bennir ganddynt, o fewn y fath gyfnod a bennir ganddynt.

(2Pan roddir cyfarwyddyd o dan reoliad 42(3), mae paragraff (1) yn cael effaith, gan roi—

(a)yn lle cyfeiriadau at yr ymchwiliad, gyfeiriadau at y rhan o’r ymchwiliad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd; a

(b)yn lle cyfeiriadau at yr apêl, gyfeiriadau at y rhan honno o’r apêl a fydd yn destun y rhan honno o’r ymchwiliad.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad a osodir o dan baragraff (1)(a) fod yn weladwy yn rhwydd i’r cyhoedd, ac yn ddarllenadwy yn rhwydd ganddynt hwy.

(4Pan fo’r hysbysiad yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn cychwyn yr ymchwiliad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol neu heb unrhyw fwriad ganddynt hwy i wneud hynny, nid yw’r awdurdod cynllunio lleol am y rheswm hwnnw i’w drin fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (3) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, a gosod un arall yn ei le os oes angen.

(5Rhaid i hysbysiad ynghylch ymchwiliad a osodir, a gyhoeddir neu a anfonir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad yr ymchwiliad ac o’r pwerau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu’r apêl;

(b)disgrifiad ysgrifenedig o’r tir sy’n ddigonol i nodi’n fras ei leoliad;

(c)disgrifiad cryno o destun yr apêl; a

(d)manylion ynghylch lle a phryd y gellir gweld copïau o’r cais sy’n destun yr apêl, yr holiadur a gwblhawyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a’r holl ddogfennau eraill a anfonir i’r awdurdod ac a gaiff eu copïo iddo o dan y Rheoliadau hyn.