RHAN 1Cyffredinol

Tynnu’n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig6

1

Pan na fo person yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig mwyach at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—

a

yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu

b

yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd iddo gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw.

2

Mae’r tynnu’n ôl neu’r dirymu o dan baragraff (1) yn derfynol ac yn cael effaith ar y diweddaraf o’r canlynol—

a

y dyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni chaiff y dyddiad hwnnw fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad; neu

b

pan fo’r cyfnod o 1 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad wedi dod i ben.