Tynnu’n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig
6.—(1) Pan na fo person yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig mwyach at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—
(a)yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd iddo gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw.
(2) Mae’r tynnu’n ôl neu’r dirymu o dan baragraff (1) yn derfynol ac yn cael effaith ar y diweddaraf o’r canlynol—
(a)y dyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni chaiff y dyddiad hwnnw fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad; neu
(b)pan fo’r cyfnod o 1 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad wedi dod i ben.