ATODLEN 1Defnyddiau datblygu masnachol bach

Rheoliad 3

Siopau1

Defnydd ar gyfer yr holl ddibenion a ganlyn, neu unrhyw un neu ragor ohonynt—

a

manwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth,

b

fel swyddfa’r post,

c

ar gyfer gwerthu tocynnau neu fel swyddfa deithio,

d

ar gyfer gwerthu brechdanau neu fwyd oer arall i’w fwyta i ffwrdd o’r fangre honno,

e

ar gyfer trin gwallt,

f

ar gyfer trefnu angladdau,

g

ar gyfer arddangos nwyddau i’w gwerthu,

h

ar gyfer hurio nwyddau neu eitemau domestig neu bersonol,

i

ar gyfer golchi neu lanhau dillad neu ffabrigau yn y fangre,

j

ar gyfer derbyn nwyddau i’w golchi, eu glanhau neu eu hatgyweirio,

pan fo’r gwerthu, yr arddangos neu’r gwasanaeth ar gyfer aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol2

Defnydd ar gyfer darparu—

a

gwasanaethau ariannol,

b

gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd neu feddygol), neu

c

unrhyw wasanaethau eraill (gan gynnwys defnydd fel swyddfa fetio) y mae’n briodol eu darparu mewn ardal siopa,

pan ddarperir y gwasanaethau yn bennaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Bwyd a diod3

Defnydd ar gyfer gwerthu bwyd neu ddiod ar gyfer ei fwyta neu ei yfed yn y fangre neu fwyd poeth ar gyfer ei fwyta i ffwrdd o’r fangre.