- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Yn rheoliad 3(6) (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru”.
(2) Yn rheoliad 8(5) (defnyddio cyfathrebiadau electronig) ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—
“(cha)anfon neu gyflwyno hysbysiad o gyfeirio, ffeil y cais neu ddatganiad achos llawn o dan reoliad 11A;”.
(3) Yn rheoliad 8(6)—
(a)yn lle “rhoi neu yn cyflwyno’r hysbysiad”, rhodder “rhoi, cyflwyno neu’n anfon yr hysbysiad, ffeil y cais neu ddatganiad achos llawn”;
(b)yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle “neu hysbysiad” rhodder “, hysbysiad neu ddogfen arall”;
(c)yn is-baragraff (c), ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “ceisydd” rhodder “person”.
(4) Ar ôl rheoliad 11 (hysbyseb am geisiadau am waith brys mewn perthynas â datblygiad gan y Goron) mewnosoder—
11A.—(1) Pan fo cais yn cael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 12 o’r Ddeddf neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 19 neu adran 74(3) o’r Ddeddf, rhaid i awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a)cyflwyno i’r ceisydd hysbysiad o gyfeirio; a
(b)anfon copi o ffeil y cais at Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru ar yr un pryd ag y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon at y ceisydd.
(3) Caiff ceisydd y mae hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno iddo ddewis cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i geisydd sy’n dewis gwneud hynny anfon—
(a)y datganiad achos llawn fel bod Gweinidogion Cymru yn ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno;
(b)copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.
(5) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “ffeil y cais” (“application file”) yw’r cais ynghyd â dogfennau atodol a’r holl ohebiaeth â’r awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â’r cais; a
(b)ystyr “hysbysiad o gyfeirio” (“notice of reference”) yw hysbysiad—
(i)sy’n rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru;
(ii)yn achos cais a gyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 12(1) o’r Ddeddf, sy’n nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ddyroddi’r cyfarwyddyd; a
(iii)sy’n hysbysu’r ceisydd—
(aa)y caiff y ceisydd gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru, os yw’n dewis gwneud hynny;
(bb)os yw’r ceisydd yn dewis cyflwyno datganiad achos llawn, rhaid i Weinidogion Cymru ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno; ac
(cc)bod rhaid anfon copi o’r datganiad achos llawn (os yw’n gymwys) i’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: