Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 547 (Cy. 124)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

5 Ebrill 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Ebrill 2017

Yn dod i rym

5 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 25 a 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) a’r pwerau a roddir iddynt gan adran 21 o’r Ddeddf honno(3) ac adran 323A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(5).

Diwygiadau i Reoliadau 2015

2.  Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.

Dehongli

3.  Yn rheoliad 2(1) yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “datganiad achos llawn” (“full statement of case”) yw, ac mae’n cynnwys—

(a)

datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn yr achos—

(i)

y mae’r ceisydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r cais sydd wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o DCSP(6); neu

(ii)

y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl o dan adran 21 o DCSP; a

(b)

copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;.

Cyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru

4.  Yn lle rheoliad 12 (hysbysiad o gyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru) a’i bennawd rhodder—

Cyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru

12.(1) Wrth gyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyflwyno i’r ceisydd hysbysiad o gyfeirio; a

(b)anfon copi o ffeil y cais at Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus anfon copi o’r hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru ar yr un pryd ag y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon at y ceisydd.

(3) Caiff ceisydd y mae hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno iddo ddewis cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i geisydd sy’n dewis gwneud hynny anfon—

(a)y datganiad achos llawn fel bod Gweinidogion Cymru yn ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno;

(b)copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod sylweddau peryglus ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.

(5) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “ffeil y cais” (“application file”) yw’r cais ynghyd â dogfennau atodol a’r holl ohebiaeth â’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n ymwneud â’r cais; a

(b)ystyr “hysbysiad o gyfeirio” (“notice of reference”) yw hysbysiad—

(i)sy’n rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru;

(ii)sy’n nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ddyroddi’r cyfarwyddyd; a

(iii)sy’n hysbysu’r ceisydd—

(aa)y caiff y ceisydd gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru, os yw’n dewis gwneud hynny;

(bb)os yw’r ceisydd yn dewis cyflwyno datganiad achos llawn, rhaid i Weinidogion Cymru ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno; ac

(cc)bod rhaid anfon copi o’r datganiad achos llawn (os yw’n gymwys) i’r awdurdod sylweddau peryglus ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.

Apelau

5.—(1Yn rheoliad 13(3)—

(a)yn is-baragraff (c) hepgorer “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle’r atalnod llawn rhodder “; ac”;

(c)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(e)datganiad achos llawn.

(2Yn rheoliad 13(6), yn lle “ffurflen hysbysiad o apêl wedi ei llenwi a’r dystysgrif sy’n cael ei chyflwyno ynghyd â hi” rhodder “ffurflen hysbysiad o apêl wedi ei llenwi, y dystysgrif sy’n cael ei chyflwyno ynghyd â hi a datganiad achos llawn”.

Amrywio ceisiadau ar ôl hysbysiad o apêl

6.  Ar ôl rheoliad 13, mewnosoder—

Amrywio ceisiadau ar ôl hysbysiad o apêl

13A.(1) At ddibenion adran 21(3E) o DCSP(7) yr amgylchiad a ragnodir yw bod y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef yn cynnwys gwall cywiradwy.

(2) Mae cais sydd wedi ei amrywio o dan yr amgylchiad a ragnodir ym mharagraff (1) yn destun unrhyw ymgynghori pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “gwall cywiradwy” (“correctable error”) yw gwall—

(a)sydd wedi ei gywiro er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais a’r dogfennau atodol yn gyson; a

(b)nad yw’n addasu hanfod y cais.

Apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

7.—(1Mae rheoliad 17(1) (apelau: materion atodol) wedi ei hepgor.

(2Mae paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 4 (apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)fel petai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (4)—

(4) A notice under subsection (3) must be accompanied by a copy of the hazardous substances contravention notice.

(4A) A person who gives notice under subsection (3) must submit to the Welsh Ministers a full statement of case either—

(a)when giving the notice, or

(b)so that it is received by the Welsh Ministers before the end of the period specified in subsection (4B).

(4B) The period specified in this subsection is—

(a)7 days beginning with the day on which the notice of appeal under subsection (3) is received by the Welsh Ministers; or

(b)such longer period as the Welsh Ministers may allow provided that any such longer period is authorised in writing by them before the date stated in the hazardous substances contravention notice as the date on which it is to take effect.

(4C) The appellant must send to the hazardous substances authority that issued the notice, as soon as reasonably practicable, a copy of the notice of appeal and the full statement of case.;

(b)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(d)fel petai is-baragraff (6) yn darllen fel a ganlyn—

(6) In this section—

“full statement of case” means and is comprised of—

(a)

a statement in writing specifying the grounds of the appeal, stating the facts on which the appeal is based and containing full particulars of the case the appellant proposes to put forward in relation to the appeal; and

(b)

copies of any supporting documents the appellant proposes to refer to or put forward in evidence;

“relevant occupier” means a person who—

(a)

on the date on which the hazardous substances contravention notice is issued occupies the land to which the notice relates by virtue of a licence; and

(b)

continues so to occupy the land when the appeal is brought..

Darpariaethau trosiannol ac arbed

8.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd mewn perthynas â chais a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—

(a)mae’r cais yn cael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990, neu

(b)mae apêl yn cael ei gwneud.

(2Mae Rheoliadau 2015 yn gymwys i’r cais hwnnw neu’r apêl honno fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 i 6 wedi eu gwneud.

(3Pan fo apêl yn cael ei gwneud mewn perthynas ag hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a ddyroddwyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae Rheoliadau 2015 yn gymwys i’r apêl honno fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliad 7 wedi eu gwneud.

Jane Hutt

Un o Weinidogion Cymru

5 Ebrill 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn—

(1diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas â cheisiadau a gyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“DCSP”), gan gynnwys darpariaeth i geisydd gyflwyno datganiad achos llawn o fewn cyfnod amser penodedig os yw’r ceisydd yn dewis gwneud hynny (rheoliad 4 sy’n rhoi rheoliad 12 newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau 2015);

(2diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas ag apelau o dan adran 21 o DCSP, i’w gwneud yn ofynnol—

(a)i ddatganiad achos llawn fynd gyda’r hysbysiad o apêl; a

(b)i’r apelydd anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod sylweddau peryglus (rheoliad 5 sy’n diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 2015);

(3darpariaeth o dan adran 21(3E) a (3F) o DCSP (a fewnosodwyd gan adran 47(4) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015) i—

(a)rhagnodi amgylchiad o dan adran 21(3E) pan ganiateir amrywio cais unwaith i’r hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno; a

(b)darparu bod cais sy’n cael ei amrywio yn y fath fodd yn destun unrhyw ymgynghori pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol (rheoliad 6 sy’n mewnosod rheoliad 13A yn Rheoliadau 2015);

(4diwygiadau i’r weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, i’w gwneud yn ofynnol—

(a)i ddatganiad achos llawn gael ei anfon at Weinidogion Cymru o fewn cyfnod penodedig; a

(b)i’r apelydd anfon copi o’r hysbysiad o apêl a’r datganiad achos llawn i’r awdurdod sylweddau peryglus (rheoliad 7 sy’n diwygio rheoliad 17 o Reoliadau 2015 a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt).

Mae rheoliad 8 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1990 p. 10. Gweler adran 39(2) i gael ystyr “prescribed”. Diwygiwyd adran 25 gan adran 25 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraff 30 o Atodlen 3 iddi, adran 196(4) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) (“Deddf 2008”) a pharagraffau 25 a 28(a) o Atodlen 10 iddi, ac erthygl 3 o O.S. 2014/2773 (Cy. 280) a pharagraffau 24 a 27(a) o Atodlen 1 iddo. Diwygiwyd adran 40 gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraff 27 o Atodlen 6 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hynny, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Diwygiwyd adran 21 gan adran 162 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) (“DDA”) a pharagraff 1 o Ran 7 o Atodlen 16 iddi, adran 197 o Ddeddf 2008 a pharagraff 6 o Atodlen 11 iddi, erthygl 3 o O.S. 2014/2773 a pharagraffau 24 a 26 o Atodlen 1 iddo, ac adran 47(4) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”).

(4)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 323A gan adran 50 o Ddeddf 2015. Mae adran 323A wedi ei gymhwyso i Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 gan adran 37 o’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 37 gan adran 51 o Ddeddf 2015, a pharagraffau 23 a 25 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(5)

O.S. 2015/1597 (Cy. 196) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

Diwygiwyd adran 20 gan adran 162 o DDA a pharagraff 1 o Ran 7 o Atodlen 16 iddi, ac erthygl 3 o O.S. 2014/2773, a pharagraffau 24 a 25 o Atodlen 1 iddo.

(7)

Mewnosodwyd adran 21(3E) gan adran 47(4) o Ddeddf 2015.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources