Dehongli3

Yn rheoliad 2(1) yn y man priodol, mewnosoder—

  • ystyr “datganiad achos llawn” (“full statement of case”) yw, ac mae’n cynnwys—

    1. a

      datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn yr achos—

      1. i

        y mae’r ceisydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r cais sydd wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o DCSP6; neu

      2. ii

        y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl o dan adran 21 o DCSP; a

    2. b

      copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;