Darpariaethau trosiannol ac arbed3.
(1)
Mae paragraff (2) yn gymwys pan wnaed unrhyw un neu ragor o’r canlynol cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—
(a)
cais am ganiatâd o dan orchymyn cadw coed,
(b)
cais am unrhyw ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod a osodir ar roi caniatâd o dan orchymyn o’r fath, neu
(c)
cyfarwyddyd o dan orchymyn cadw coed neu gais am unrhyw ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan y fath gyfarwyddyd.
(2)
Mae Rheoliadau 1999 yn gymwys i apêl mewn perthynas â’r fath gais neu gyfarwyddyd fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2)(b)(ii), (iii) a (vi) wedi eu gwneud.