xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
24 Ionawr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Ionawr 2017
Yn dod i rym
1 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14A(6)(b) a (7) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adroddiad asesiad poblogaeth” (“population assessment report”) yw’r adroddiad y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 5 o’r rheoliadau asesiadau poblogaeth;
ystyr “Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol” (“Regional Partnership Board”) yw un o’r byrddau y mae’n ofynnol iddynt gael eu sefydlu yn unol â rheoliadau 2 i 8 o’r rheoliadau trefniadau partneriaeth;
ystyr “Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol perthnasol” (“relevant Regional Partnership Board”) yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu ar gyfer ardal y corff perthnasol;
mae i “corff perthnasol” (“relevant body”) yr un ystyr ag yn adran 14A(1) o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun ardal” (“area plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol i gorff perthnasol ei lunio yn unol ag adran 14A(2) o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun ardal ar y cyd” (“joint area plan”) yw cynllun ardal sydd wedi ei lunio gan gorff perthnasol ar y cyd â chorff perthnasol arall yn unol â’r pwerau yn adran 14A(4) neu (5) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “y rheoliadau asesiadau poblogaeth” (“the population assessments regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015(2);
ystyr “y rheoliadau trefniadau partneriaeth” (“the partnership arrangements regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(3).
2.—(1) Rhaid cyhoeddi’r cynllun ardal cyntaf (neu, os yw’n gymwys, y cynllun ardal cyntaf ar y cyd) erbyn 1 Ebrill 2018.
(2) Rhaid cyhoeddi cynlluniau ardal dilynol (neu, os yw’n gymwys, cynlluniau ardal ar y cyd) o fewn un flwyddyn ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol cyhoeddi’r adroddiad asesiad poblogaeth diweddaraf.
3. Mewn achos pan fo adendwm i adroddiad asesiad poblogaeth yn cael ei ddyroddi yn unol â rheoliad 7 o’r rheoliadau asesiadau poblogaeth, rhaid i’r corff perthnasol sydd wedi llunio cynllun ardal yn dilyn yr adroddiad hwnnw (neu, os yw’n gymwys, y cyrff perthnasol sydd wedi llunio cynllun ardal ar y cyd yn dilyn yr adroddiad hwnnw)—
(a)adolygu’r cynllun ardal diweddaraf (neu’r cynllun ardal ar y cyd, os yw’n gymwys);
(b)ystyried a oes angen diwygio’r cynllun;
(c)os penderfynir diwygio’r cynllun, llunio cynllun diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol yn dilyn dyroddi’r adendwm;
(d)cyhoeddi unrhyw gynllun diwygiedig.
4. Rhaid i gorff perthnasol sydd wedi llunio cynllun ardal (neu, os yw’n gymwys, y cyrff perthnasol sydd wedi llunio cynllun ardal ar y cyd)—
(a)cynnwys copi o’r cynllun (ac, os yw’n gymwys, copi o unrhyw gynllun diwygiedig) fel rhan o’r adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol perthnasol yn unol â rheoliad 12 o’r rheoliadau trefniadau partneriaeth, a
(b)cyflwyno unrhyw gynllun neu gynllun diwygiedig o’r fath i Weinidogion Cymru.
5.—(1) Wrth lunio cynllun ardal neu gynllun ardal diwygiedig (neu, os yw’n gymwys, cynllun ardal ar y cyd neu gynllun ardal ar y cyd diwygiedig), rhaid i gorff perthnasol (neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol) gymryd camau rhesymol i ymgysylltu â’r canlynol—
(a)pobl yn yr ardal y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth,
(b)pobl yn yr ardal sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blant y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth, ac
(c)gofalwyr yn yr ardal y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am gymorth.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “yr ardal” (“the area”) yw’r ardal sydd wedi ei chwmpasu gan y cynllun ardal (neu, os yw’n gymwys, y cynllun ardal ar y cyd).
(3) Rhaid i gorff perthnasol (neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol) sefydlu gweithdrefn ar gyfer yr ymgysylltu sy’n ofynnol gan baragraff (1).
6.—(1) Wrth lunio cynllun ardal neu gynllun ardal diwygiedig (neu, os yw’n gymwys, cynllun ardal ar y cyd neu gynllun ardal ar y cyd diwygiedig), rhaid i gorff perthnasol (neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol) ymgysylltu ag unrhyw sefydliad sector preifat, unrhyw sefydliad trydydd sector neu unrhyw gorff cyhoeddus y mae’n credu ei fod yn ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, neu fod ganddo fuddiant yn y ddarpariaeth o ofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, i’r boblogaeth yn yr ardal sydd wedi ei chwmpasu gan y cynllun.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw corff (pa un a yw’n gorfforaethol neu’n anghorfforedig) sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus. At ddiben y diffiniad hwn, mae swyddogaeth gyhoeddus yn swyddogaeth sy’n swyddogaeth o natur gyhoeddus at ddibenion Deddf Hawliau Dynol 1998(4);
mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf(5).
7. Rhaid i gorff perthnasol (neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol) gymryd camau priodol i fonitro a gwerthuso’r gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir yn y cynllun ardal (neu, os yw’n gymwys, y cynllun ardal ar y cyd).
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2017
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae adran 14A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol lunio a chyhoeddi cynllun ar ôl cynnal asesiad o anghenion o dan adran 14 o Ddeddf 2014 (a adwaenir fel “asesiad poblogaeth”). Rhaid i’r cynllun hwn (a adwaenir fel “cynllun ardal”) nodi, ymhlith pethau eraill, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu iddynt gael eu darparu, mewn ymateb i’r asesiad poblogaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ardal, gan gynnwys pennu pa bryd y mae cynllun ardal i gael ei gyhoeddi (rheoliad 2), adolygu a diwygio cynlluniau ardal (rheoliad 3), personau y dylid darparu copïau o’r cynlluniau ardal iddynt (rheoliad 4), cymryd camau i ymgysylltu â dinasyddion, sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector a chyrff cyhoeddus wrth lunio cynlluniau ardal (rheoliadau 5 a 6) a monitro a gwerthuso cynlluniau ardal (rheoliad 7).
Mae’r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sut y mae pob un o’r rheoliadau i fod yn gymwys os yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu arfer pwerau o dan adran 14A(4) neu (5) o Ddeddf 2014 i lunio a chyhoeddi cynllun ardal ar y cyd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2014 dccc 4. Mewnosodwyd adran 14A gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), Atodlen 4, paragraff 34.
Yn adran 16(2) o’r Ddeddf, ystyr “sefydliad trydydd sector” yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.