- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adroddiad asesiad poblogaeth” (“population assessment report”) yw’r adroddiad y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 5 o’r rheoliadau asesiadau poblogaeth;
ystyr “Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol” (“Regional Partnership Board”) yw un o’r byrddau y mae’n ofynnol iddynt gael eu sefydlu yn unol â rheoliadau 2 i 8 o’r rheoliadau trefniadau partneriaeth;
ystyr “Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol perthnasol” (“relevant Regional Partnership Board”) yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu ar gyfer ardal y corff perthnasol;
mae i “corff perthnasol” (“relevant body”) yr un ystyr ag yn adran 14A(1) o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun ardal” (“area plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol i gorff perthnasol ei lunio yn unol ag adran 14A(2) o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun ardal ar y cyd” (“joint area plan”) yw cynllun ardal sydd wedi ei lunio gan gorff perthnasol ar y cyd â chorff perthnasol arall yn unol â’r pwerau yn adran 14A(4) neu (5) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “y rheoliadau asesiadau poblogaeth” (“the population assessments regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015(1);
ystyr “y rheoliadau trefniadau partneriaeth” (“the partnership arrangements regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: