xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Cydsyniad

Y gofyniad am gydsyniad

8.  Rhaid i berson gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn dechrau neu gyflawni prosiect sylweddol.

Barnau cwmpasu

9.—(1Ar ôl cael penderfyniad sgrinio bod prosiect yn brosiect sylweddol, ond cyn gwneud cais am gydsyniad, caiff y ceisydd ofyn i Weinidogion Cymru roi eu barn ar ba wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

(2Os yw’r ceisydd yn gofyn am farn gwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ceisydd ac unrhyw rai o’r cyrff ymgynghori sy’n briodol yn eu barn hwy, cyn rhoi eu barn.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i roi barn gwmpasu, cânt ofyn i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arnynt ei hangen o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael y ceisiad am y farn gwmpasu.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r farn gwmpasu i’r ceisydd o fewn 5 wythnos—

(a)i’r dyddiad y cawsant y farn gwmpasu; neu

(b)pan fo’n gymwys, i’r dyddiad y cawsant yr wybodaeth ychwanegol o dan baragraff (3).

Darparu gwybodaeth

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â chorff ymgynghori o dan reoliad 9(2); neu

(b)os yw corff ymgynghori yn cael ceisiad am wybodaeth gan berson sy’n bwriadu gwneud cais am gydsyniad.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r corff ymgynghori—

(a)penderfynu a oes ganddo yn ei feddiant unrhyw wybodaeth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i Weinidogion Cymru neu’r ceisydd o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr ymgynghoriad neu’r ceisiad, pa un bynnag sydd gynharaf.

(3Caiff corff ymgynghori godi ffi resymol ar y ceisydd am ddarparu gwybodaeth o dan baragraff (2)(b), i adlewyrchu’r gost o drefnu bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.

(4Nid yw paragraff (2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i’r ceisydd unrhyw wybodaeth—

(a)y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1); neu

(b)y’i rhwystrir rhag ei datgelu gan reoliad 13(1) o’r Rheoliadau hynny.

(5Os nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr “public authority” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae paragraff (4) yn gymwys fel pe bai’n awdurdod cyhoeddus o’r fath.

Y cais am gydsyniad a’r datganiad amgylcheddol

11.—(1Rhaid i gais am gydsyniad—

(a)cynnwys datganiad amgylcheddol; a

(b)cael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(2Mae datganiad amgylcheddol yn ddatganiad sy’n cynnwys o leiaf—

(a)disgrifiad o’r prosiect, sef gwybodaeth ynghylch y safle, y dyluniad, maint y prosiect a’i nodweddion perthnasol eraill;

(b)disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd;

(c)disgrifiad o nodweddion y prosiect a/neu fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl;

(d)disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol a astudiwyd gan y ceisydd, sy’n berthnasol i’r prosiect a’i nodweddion penodol, a mynegiad o’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan ystyried effeithiau sylweddol y prosiect ar yr amgylchedd;

(e)crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a) i (d); ac

(f)unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir yn Atodlen 3 sy’n berthnasol i nodweddion penodol y prosiect penodol neu’r math o brosiect ac i’r nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(3Rhaid i’r datganiad amgylcheddol—

(a)cael ei lunio ar ran y ceisydd gan bersonau sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn meddu ar arbenigedd digonol i sicrhau bod y datganiad yn gyflawn ac yn safonol;

(b)cynnwys datganiad gan neu ar ran y ceisydd neu’r apelydd sy’n disgrifio arbenigedd y person a luniodd y datganiad amgylcheddol;

(c)pan fo barn gwmpasu wedi ei dyroddi yn unol â rheoliad 9, fod yn seiliedig ar y farn gwmpasu ddiweddaraf a ddyroddwyd (i’r graddau y mae’r prosiect yn parhau i fod yr un prosiect yn ei hanfod â’r prosiect a fu’n destun y farn honno);

(d)cynnwys yr wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y prosiect ar yr amgylchedd, gan roi sylw i’r wybodaeth gyfredol a’r dulliau asesu cyfredol; ac

(e)rhoi sylw i’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol perthnasol eraill sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr UE neu unrhyw ddarpariaeth arall mewn deddfwriaeth ddomestig, gyda’r nod o osgoi dyblygu asesiadau.

(4Ar ôl cael y cais am gydsyniad, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copi o’r cais i unrhyw un neu ragor o’r cyrff ymgynghori sy’n briodol yn eu barn hwy, a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau o fewn 6 wythnos i’r dyddiad y cawsant y cais; a

(b)cyhoeddi, mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol y tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cymru, hysbysiad—

(i)yn datgan bod y cais wedi ei wneud;

(ii)yn pennu cyfeiriad lle gellir gweld copïau o’r cais yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o’r cais gael eu gwneud (y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt), ar bob adeg resymol am 6 wythnos o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad;

(iii)yn datgan y caiff sylwadau ar effeithiau amgylcheddol tebygol y prosiect eu cyflwyno yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a bennir o dan baragraff (ii) am gyfnod o 6 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad;

(iv)yn datgan, os rhoddir cydsyniad, y bydd yn ddarostyngedig i’r amodau yn rheoliad 17(2), ac i unrhyw amodau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru; a

(v)yn datgan, pan fo’n berthnasol, pa un o Wladwriaethau’r AEE, aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy yn y Wladwriaeth AEE honno, a’r cyrff ymgynghori yr ymgynghorir â hwy ynglŷn â’r cais.

Gwybodaeth ychwanegol

12.—(1Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl cydymffurfio â rheoliad 11(4), yn penderfynu y dylai datganiad, a gynhwyswyd gyda chais am gydsyniad, sy’n honni ei fod yn ddatganiad amgylcheddol, gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am yr wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol, a rhaid i’r ceisydd ddarparu’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau o gael y fath hysbysiad (“gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol”).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copi o’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol i unrhyw rai o’r cyrff ymgynghori y maent yn ystyried sy’n briodol, a

(b)hysbysu’r cyrff ymgynghori y cânt gyflwyno sylwadau o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daw’r wybodaeth ychwanegol i’w llaw.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol y tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cymru, hysbysiad—

(a)yn cyfeirio at y cais y mae’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn ymwneud ag ef a’r dyddiad y gwnaed y cais;

(b)yn datgan bod yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol wedi dod i law;

(c)yn pennu cyfeiriad lle gellir gweld copïau o’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o’r cais gael eu gwneud (ac y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt) ar bob adeg resymol am 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad; a

(d)yn datgan y caniateir i sylwadau mewn perthynas â’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a bennir o dan is-baragraff (c) am gyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad.

Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol yng Nghymru effeithio ar Wladwriaeth AEE arall

13.—(1Cyn gynted â phosibl ar ôl cael cais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw’r prosiect hwnnw hefyd yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod prosiect yn debygol o gael effeithiau sylweddol yn unol â pharagraff (1), neu os yw Gwladwriaeth AEE y mae’r prosiect yn debygol o gael effeithiau sylweddol arni yn gofyn am hynny, rhaid i Weinidogion Cymru anfon i’r Wladwriaeth AEE honno—

(a)manylion natur a lleoliad y prosiect sylweddol;

(b)unrhyw wybodaeth sydd gan Weinidogion Cymru am yr effaith y mae’r prosiect yn debygol o gael ar y Wladwriaeth AEE honno;

(c)mynegiad ynghylch a yw Gweinidogion Cymru o blaid rhoi cydsyniad ar gyfer y prosiect a’r amodau tebygol y bydd y cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt; a

(d)ceisiad bod y Wladwriaeth AEE yn rhoi mynegiad, o fewn amserlen resymol a bennir gan Weinidogion Cymru, pa un a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.

(3Os yw Gwladwriaeth AEE yn mynegi ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno—

(a)copi o’r cais am gydsyniad, y datganiad amgylcheddol ac unrhyw wybodaeth bellach y maent yn ystyried ei bod yn berthnasol i’r cais; a

(b)gwybodaeth am y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.

(4Yn unol ag Erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)trefnu bod y dogfennau a’r wybodaeth ym mharagraffau (2) a (3) ar gael i’r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb AEA ac aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE; a

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny ac aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy yn cael cyfle i anfon at Weinidogion Cymru eu barn ar yr wybodaeth a’r dogfennau a ddarparwyd, o fewn cyfnod rhesymol cyn gwneud penderfyniad ynghylch rhoi cydsyniad.

(5Yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)dechrau ymgynghori â’r Wladwriaeth AEE y mae a wnelo’r cais â hi ynghylch, ymhlith pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar amgylchedd y Wladwriaeth honno a’r mesurau a ragwelir i leihau neu ddileu’r effeithiau hynny; a

(b)ceisio cytuno gyda’r Wladwriaeth AEE y mae a wnelo’r cais â hi ar amserlen resymol ar gyfer yr ymgynghori hwnnw, y mae’n rhaid iddi gynnwys amser i ystyried unrhyw farnau sy’n dod i law o dan baragraff (4)(b).

Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall effeithio ar Gymru

14.—(1Os yw Gweinidogion Cymru yn cael oddi wrth Wladwriaeth AEE arall wybodaeth a ryddhawyd yn unol ag Erthygl 7(1) o’r Gyfarwyddeb AEA mewn perthynas â phrosiect sylweddol yn y Wladwriaeth AEE honno, cyn y gwneir penderfyniad ar roi cydsyniad, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)trefnu i’r wybodaeth honno gael ei rhyddhau, o fewn cyfnod rhesymol, i’r cyrff ymgynghori ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd y mae’r prosiect yn debygol o fod a wnelo â hwy;

(b)sicrhau bod y cyrff ymgynghori a’r aelodau o’r cyhoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn cael cyfle i anfon eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd o fewn y cyfnod y cytunir arno o dan baragraff (2)(b).

(2Yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)dechrau ymgynghori â’r Wladwriaeth AEE y mae a wnelo’r cais â hi ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir i leihau neu ddileu’r effeithiau hynny; a

(b)ceisio cytuno gyda’r Wladwriaeth AEE, cyn y gwneir penderfyniad ynghylch cydsyniad, ar gyfnod rhesymol pryd y gellir anfon unrhyw farnau a geir o dan baragraff (1)(b) ymlaen at y Wladwriaeth AEE honno.

(3Os yw Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod cydsyniad a’i bod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru am y penderfyniad hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddwyn at sylw’r cyhoedd yr wybodaeth a gafwyd oddi wrth y Wladwriaeth AEE honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw.

Y penderfyniad cydsynio

15.—(1Wrth benderfynu a ddylid rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)y datganiad amgylcheddol;

(b)unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol;

(c)unrhyw sylwadau a ddaw i’w llaw o dan—

(i)rheoliad 11(4)(a);

(ii)rheoliad 12(2)(b) a (3)(d); neu

(iii)rheoliad 13(4)(b); a

(d)unrhyw effeithiau cymdeithasol neu economaidd a allai ddeillio o benderfyniad i wrthod cydsyniad ar gyfer y prosiect.

(2Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddod i benderfyniad o dan baragraff (1) tan y diweddaraf o’r canlynol—

(a)pan ddaw’r cyfnod yn yr hysbysiad o dan reoliad 11(4)(b)(iii) i ben;

(b)pan ddaw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol i’r cyrff ymgynghori yn unol â rheoliad 12(2)(b) i ben;

(c)pan ddaw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad o dan reoliad 12(3) i ben; a

(d)pan ddaw unrhyw gyfnod y cytunir arno gyda Gwladwriaeth AEE arall o dan reoliad 13(5)(b) i ben,

p’un bynnag yw’r diweddaraf.

Gofynion ychwanegol sy’n ymwneud â’r Rheoliadau Cynefinoedd

16.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect a fyddai’n anghyfreithlon o dan reoliadau 41, 43 neu 45 o’r Rheoliadau Cynefinoedd.

(2Ond nid yw hynny’n cynnwys unrhyw beth y rhoddwyd trwydded ar ei gyfer o dan reoliad 53 o’r Rheoliadau Cynefinoedd.

(3Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ar gyfer prosiect sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd, pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiect arall (y cyfeirir ato yn y paragraffau hynny fel “y prosiect”).

(4Caiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect os ydynt wedi ystyried goblygiadau’r prosiect i’r safle Ewropeaidd (gan gynnwys asesiad priodol o’r goblygiadau gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle hwnnw) a’u bod wedi eu bodloni na fydd y prosiect yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd y safle, oni bai bod paragraff (5) yn gymwys.

(5Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod rhaid i’r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol, sef bod hynny er budd cyhoeddus tra phwysig (a all, yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod o natur cymdeithasol neu economaidd) ac nad oes unrhyw ddatrysiad amgen, cânt roi cydsyniad ar gyfer y prosiect er bod yr asesiad o’i oblygiadau o ran safle Ewropeaidd yn negyddol.

(6Os yw’r safle Ewropeaidd yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i’r rhesymau ym mharagraff (5) fod naill ai—

(a)yn rhesymau sy’n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch y cyhoedd neu ganlyniadau buddiol o’r pwys mwyaf i’r amgylchedd, neu

(b)yn rhesymau eraill sydd, ym marn y Comisiwn Ewropeaidd, yn achos y safle dan sylw, yn rhesymau hanfodol, sef bod hynny er budd cyhoeddus tra phwysig.

(7Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect yn unol â pharagraff (5), rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw fesurau digolledu angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000(2) yn cael ei ddiogelu.

Yr amodau cydsynio

17.—(1Bydd cydsyniad a roddir yn unol â rheoliad 15 yn ddarostyngedig i—

(a)yr amodau ym mharagraff (2); a

(b)unrhyw amodau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(2Yr amodau sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(a) yw—

(a)bod y cydsyniad yn methu oni ddechreuir y prosiect o fewn 1 flwyddyn i’r dyddiad y rhoddir y cydsyniad;

(b)bod y cydsyniad yn dod i ben oni chwblheir y prosiect o fewn 3 blynedd i’r dyddiad y rhoddir y cydsyniad; ac

(c)bod y cydsyniad ond yn awdurdodi’r prosiect a ddisgrifir yn y cais am gydsyniad yn unig, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4).

(3Ar ôl i gydsyniad ddod i ben yn unol â pharagraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) gael ei wneud mewn cysylltiad ag unrhyw weithrediadau pellach neu ddefnyddiau pellach sy’n rhan o’r prosiect.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i’r cydsyniad pan fo ceisydd yn gofyn amdanynt, ond bydd yn ofynnol gwneud cais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) i wneud unrhyw newid sylweddol i’r gweithrediadau awdurdodedig neu i’r defnyddiau awdurdodedig.

(5Caniateir i geisiadau pellach am gydsyniad o dan baragraffau (3) a (4) fod yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r gofynion yn y Rheoliadau hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(6Yn y rheoliad hwn, mae prosiect wedi ei—

“dechrau” (“commenced”) pan fo gweithred sylweddol wedi ei chyflawni mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r gwaith neu’r gweithiau a ganiateir gan y cydsyniad; a

“wedi ei gwblhau” (“completed”) pan fydd yr holl waith a ganiateir o dan y cydsyniad wedi ei gyflawni a bod yr holl newidiadau yn y defnydd o’r tir perthnasol, neu yn lefel y defnydd hwnnw, wedi eu rhoi ar waith.

Y weithdrefn yn dilyn penderfyniad cydsynio

18.  Ar ôl i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad cydsynio mewn cysylltiad â phrosiect, rhaid iddynt—

(a)hysbysu’r ceisydd, unrhyw gyrff ymgynghori yr anfonwyd copïau o’r cais am gydsyniad atynt o dan reoliad 11(4)(a), unrhyw Wladwriaeth AEE a hysbyswyd o dan reoliad 13(2) ac unrhyw awdurdod neu berson a gyflwynodd farn o dan reoliad 13(4)(b), am—

(i)eu penderfyniad;

(ii)y rhesymau dros y penderfyniad;

(iii)unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd;

(b)cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd yn yr ardal leol y mae’r tir perthnasol wedi ei leoli ynddi neu drwy unrhyw ddulliau eraill y maent yn ystyried eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ac

(c)sicrhau bod datganiad ar gael i’w weld gan y cyhoedd sy’n cynnwys y canlynol—

(i)y penderfyniad;

(ii)y rhesymau dros y penderfyniad;

(iii)disgrifiad o’r prif fesurau y mae’n rhaid eu cymryd er mwyn osgoi, lleihau neu wrthbwyso effeithiau andwyol sylweddol y prosiect;

(iv)crynodeb o unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd; a

(v)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio’r penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

Prosiectau trawsffiniol

19.—(1Yn achos prosiect trawsffiniol pan fo’r rhan fwyaf o’r tir perthnasol wedi ei leoli yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn—

(a)gwneud penderfyniad sgrinio o dan reoliad 7;

(b)rhoi barn gwmpasu o dan reoliad 9; neu

(c)rhoi neu wrthod cydsyniad o dan reoliad 15.

(2Yn achos prosiect trawsffiniol pan fo’r rhan fwyaf o’r tir perthnasol wedi ei leoli yn Lloegr, yr unig Reoliadau y bydd y prosiect hwnnw’n ddarostyngedig iddynt yw’r Rheoliadau sy’n gymwys i’r prosiect yn Lloegr, ac eithrio pan gytunir fel arall o dan baragraff (4).

(3Yn achos cais mewn cysylltiad â phrosiect trawsffiniol y byddai’r Rheoliadau hyn fel arall yn gymwys iddynt, os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am hynny, caiff Gweinidogion Cymru gytuno i’r cais fod yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau sy’n gymwys i’r prosiect yn Lloegr yn unig.

(4Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am hynny, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno, bydd prosiect trawsffiniol y byddai paragraff (2) yn gymwys iddo fel arall yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn yn unig.

Adolygiad o benderfyniadau a chydsyniadau

20.  Mae Atodlen 4 yn gymwys os, ar ôl dyddiad—

(a)penderfyniad nad yw prosiect yn brosiect sylweddol, neu

(b)penderfyniad i roi cydsyniad ar gyfer prosiect,

daw’r tir perthnasol yn safle Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyflawni neu gwblhau (o fewn ystyr “wedi ei gwblhau” yn rheoliad 17(6)) y prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar y safle hwnnw ac na fyddai’n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli’r safle nac yn angenrheidiol i’w reoli.

(2)

Gweler rheoliad 3(1) o’r Rheoliadau Cynefinoedd am y diffiniad o “Natura 2000”.