xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 7
1. Nodweddion prosiectau, gan roi sylw penodol i—
(a)maint a dyluniad y prosiect cyfan;
(b)sut mae’n cyfuno â phrosiectau eraill presennol a/neu a gymeradwywyd;
(c)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth;
(d)y gwastraff a gaiff ei gynhyrchu;
(e)llygredd a niwsans;
(f)y perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r prosiect dan sylw, gan gynnwys y rheini a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn unol â gwybodaeth wyddonol; ac
(g)y risgiau i iechyd pobl (er enghraifft yn sgil halogi dŵr neu lygredd aer).
2. Sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw penodol i—
(a)y defnydd presennol o’r tir a’r defnydd a gymeradwywyd o’r tir;
(b)digonedd, argaeledd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol adnoddau naturiol (gan gynnwys pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth) yn yr ardal, gan gynnwys adnoddau tanddaearol; ac
(c)gallu’r amgylchedd naturiol i amsugno, gan roi sylw penodol i’r ardaloedd a ganlyn—
(i)gwlyptiroedd, glannau afonydd, aberoedd afonydd;
(ii)parthau arfordirol a’r amgylchedd morol;
(iii)ardaloedd mynyddig a choedwigoedd;
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;
(v)ardaloedd sydd wedi eu dosbarthu neu wedi eu diogelu o dan ddeddfwriaeth (gan gynnwys safleoedd Ewropeaidd);
(vi)ardaloedd lle bu methiant eisoes i fodloni’r safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr UE ac sy’n berthnasol i’r prosiect, neu ardaloedd lle ystyrir bod methiant o’r fath;
(vii)ardaloedd dwys eu poblogaeth; ac
(viii)tirweddau a safleoedd sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.
3. Rhaid ystyried effeithiau sylweddol tebygol prosiectau ar yr amgylchedd, mewn perthynas â’r meini prawf a nodir ym mharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen hon, o ran effaith y prosiect ar y ffactorau a bennir ym mharagraff 4(1) o Atodlen 3, gan gymryd i ystyriaeth—
(a)maint a graddau gofodol yr effaith (er enghraifft arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth sy’n debygol o gael ei heffeithio);
(b)natur yr effaith;
(c)natur trawsffiniol yr effaith;
(d)dwysedd a chymhlethdod yr effaith;
(e)tebygolrwydd yr effaith;
(f)dechreuad, hyd, amlder a gwrthdroadwyedd disgwyliedig yr effaith;
(g)sut mae’r effaith yn cyfuno ag effaith prosiectau eraill presennol a/neu a gymeradwywyd; ac
(h)y posibilrwydd o leihau’r effaith yn effeithiol.