RHAN 3Cydsyniad
Darparu gwybodaeth10.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)
os yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â chorff ymgynghori o dan reoliad 9(2); neu
(b)
os yw corff ymgynghori yn cael ceisiad am wybodaeth gan berson sy’n bwriadu gwneud cais am gydsyniad.
(2)
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r corff ymgynghori—
(a)
penderfynu a oes ganddo yn ei feddiant unrhyw wybodaeth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol; a
(b)
yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i Weinidogion Cymru neu’r ceisydd o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr ymgynghoriad neu’r ceisiad, pa un bynnag sydd gynharaf.
(3)
Caiff corff ymgynghori godi ffi resymol ar y ceisydd am ddarparu gwybodaeth o dan baragraff (2)(b), i adlewyrchu’r gost o drefnu bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.
(4)
Nid yw paragraff (2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i’r ceisydd unrhyw wybodaeth—
(a)
(b)
y’i rhwystrir rhag ei datgelu gan reoliad 13(1) o’r Rheoliadau hynny.
(5)
Os nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr “public authority” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae paragraff (4) yn gymwys fel pe bai’n awdurdod cyhoeddus o’r fath.