RHAN 3Cydsyniad

Darparu gwybodaeth

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â chorff ymgynghori o dan reoliad 9(2); neu

(b)os yw corff ymgynghori yn cael ceisiad am wybodaeth gan berson sy’n bwriadu gwneud cais am gydsyniad.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r corff ymgynghori—

(a)penderfynu a oes ganddo yn ei feddiant unrhyw wybodaeth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i Weinidogion Cymru neu’r ceisydd o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr ymgynghoriad neu’r ceisiad, pa un bynnag sydd gynharaf.

(3Caiff corff ymgynghori godi ffi resymol ar y ceisydd am ddarparu gwybodaeth o dan baragraff (2)(b), i adlewyrchu’r gost o drefnu bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.

(4Nid yw paragraff (2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i’r ceisydd unrhyw wybodaeth—

(a)y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1); neu

(b)y’i rhwystrir rhag ei datgelu gan reoliad 13(1) o’r Rheoliadau hynny.

(5Os nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr “public authority” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae paragraff (4) yn gymwys fel pe bai’n awdurdod cyhoeddus o’r fath.