Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “amaethyddiaeth” yr un ystyr ag “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947(1);
ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw cydsyniad a roddir o dan reoliad 15;
ystyr “cyrff ymgynghori” (“consultation bodies”) yw—
Corff Adnoddau Naturiol Cymru; neu
unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, corff statudol neu sefydliad arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ganddo unrhyw fuddiant yn y prosiect neu sy’n dal unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r prosiect;
ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad fel y’i disgrifir yn rheoliad 11;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;
ystyr “gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol” (“additional environmental information”) yw unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol o dan reoliad 12(1);
ystyr “y Gyfarwyddeb AEA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(2);
ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(3);
ystyr “penderfyniad sgrinio” (“screening decision”) yw penderfyniad sydd wedi ei wneud, neu y bernir ei fod wedi ei wneud, gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(1) neu (7);
ystyr “prosiect” (“project”) yw—
cyflawni gwaith adeiladu neu waith gosod neu gynlluniau eraill; neu
ymyriadau eraill yn y tir naturiol oddi amgylch a’r tirlun;
ystyr “prosiect ailstrwythuro” (“restructuring project”) yw prosiect i ailstrwythuro daliadau tir gwledig;
ystyr “prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin” (“project on semi-natural and/or uncultivated land”) yw prosiect i gynyddu cynhyrchiant amaethyddol ardal o dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin ac mae’n cynnwys prosiectau i gynyddu cynhyrchiant amaethyddol tir o’r fath i lefel islaw’r norm;
ystyr “prosiect sylweddol” (“significant project”) yw prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, neu y bernir eu bod wedi penderfynu, ei fod yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn unol â rheoliad 7(1) neu (7);
ystyr “prosiect trawsffiniol” (“transborder project”) yw prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro lle mae’r tir perthnasol wedi ei leoli’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr;
ystyr “y Rheoliadau Cynefinoedd” (“the Habitats Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(4);
ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw safle a grybwyllir ym mharagraff (1)(a), (b), (d) neu (e) o reoliad 8 o’r Rheoliadau Cynefinoedd;
ystyr “tir lled-naturiol” (“semi-natural land”) yw tir sy’n cynnwys llai na 25% o rywogaethau amaethyddol wedi eu gwella sy’n arwydd bod y tir yn cael ei drin;
ystyr “y tir perthnasol” (“the relevant land”) yw’r tir lle y mae’r prosiect i’w gyflawni (neu lle y’i cyflawnwyd).
(2) Mae i’r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb AEA neu yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb berthnasol.
(3) Rhaid gwneud neu gyflwyno pob cais, hysbysiad, sylw, ceisiad, cymeradwyaeth a chytundeb o dan y Rheoliadau hyn yn ysgrifenedig.
(4) Mae “ysgrifenedig” ym mharagraff (3), ac eithrio pan fo’n gymwys i hysbysiadau o dan reoliad 24 neu 26, yn cynnwys cyfathrebiad electronig o fewn ystyr “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(5), ond caiff hysbysiadau y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru eu cyflwyno i unrhyw berson ond gael eu cyflwyno drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig os yw’r derbynnydd arfaethedig—
(a)wedi defnyddio’r dull hwnnw o gyfathrebu electronig wrth gyfathrebu â Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu
(b)wedi mynegi fel arall bod y dull hwnnw o gyfathrebu electronig yn fodd y gall personau ei ddefnyddio i gyfathrebu ag ef.
(5) Caniateir i hysbysiadau neu ddogfennau, y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir eu cyflwyno, eu hanfon neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn, gael eu hanfon drwy’r post.
OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1–21.
OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7–50.