RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

Cymhwyso’r Rheoliadau3.

(1)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw brosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, oni bai ei fod yn esempt yn unol â pharagraff (2) neu (3).

(2)

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i brosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro os yw—

(a)

yn brosiect a grybwyllir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 19999;

(b)

yn ddatblygiad y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201710 yn gymwys iddo;

(c)

yn cyflawni gwaith gwella gan gorff draenio o fewn ystyr Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 199911;

(d)

yn brosiect perthnasol o fewn ystyr rheoliad 3(2) a (3) o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 200312;

(e)

yn tynnu gwrych ymaith fel y caniateir gan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwrychoedd 199713; neu

(f)

yn waith cyfyngedig, gan gynnwys codi unrhyw adeilad neu ffens, neu godi unrhyw waith arall, y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer o dan adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 200614.

(3)

Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo, yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb AEA, ei fod yn esempt rhag rheoliadau 4 i 33 o’r Rheoliadau hyn.

(4)

Yn achos prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu ei fod yn debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), dim ond i’r graddau y sicrheir cydymffurfedd â’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas â’r prosiect y mae’r pŵer i gyfarwyddo bod y prosiect yn esempt o dan baragraff (3) yn arferadwy.

(5)

Pa fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu dyroddi cyfarwyddyd o dan baragraff (3), rhaid iddynt—

(a)

ystyried a fyddai unrhyw fath arall o asesiad o’r prosiect yn briodol; a

(b)

tynnu sylw’r cyhoedd at—

(i)

yr wybodaeth a ystyriwyd wrth ddyroddi’r cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud hynny, a

(ii)

yr wybodaeth a gafwyd o unrhyw asesiad o’r prosiect o dan is-baragraff (a).