- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
31.—(1) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod apêl a gyflwynwyd yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 30 o ran yr holl fanylion perthnasol, rhaid iddynt fwrw ymlaen i benderfynu ar yr apêl.
(2) Cyn penderfynu ar yr apêl rhaid i Weinidogion Cymru, gan ganiatáu’r fath gyfnod sy’n rhesymol—
(a)gwahodd yr apelydd ac unrhyw bartïon â buddiant i gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;
(b)anfon at y partïon â buddiant gopi o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynir gan yr apelydd;
(c)anfon at yr apelydd gopi o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynir gan y partïon â buddiant;
(d)rhoi cyfle i’r apelydd a’r partïon â buddiant gyflwyno sylwadaethau ar sylwadau a dogfennau ategol ei gilydd i’r person penodedig.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu’r partïon â buddiant ar unrhyw adeg.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylwadau, sylwadaethau neu ddogfennau a gyflwynwyd ac eithrio yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(5) Os yw gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol i’w gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)rhoi 6 wythnos o hysbysiad i’r apelydd a’r partïon â buddiant ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle a bennir ar gyfer y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol ac enw’r person a benodir i gynnal y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol (neu, fel y bo’n berthnasol, i benderfynu ar yr apêl); a
(b)rhoi’r fath hysbysiad y maent yn meddwl sy’n briodol i hysbysu’r cyhoedd nid llai na 21 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol.
(6) Mae gan yr apelydd yr hawl i ymddangos mewn gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol, a chaiff Gweinidogion Cymru ganiatáu i berson â buddiant ymddangos hefyd.
(7) Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu ar apêl—
(a)cânt gadarnhau, amrywio neu ddirymu hysbysiad perthnasol;
(b)cânt gadarnhau neu wrthdroi penderfyniad perthnasol neu unrhyw ran ohono;
(c)rhaid iddynt hysbysu’r apelydd ac unrhyw bartïon eraill i’r apêl.
(8) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn y’i penderfynir.
(9) Y dull ar gyfer tynnu apêl yn ôl yw drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth yr apelydd i Weinidogion Cymru.
(10) Os tynnir apêl yn ôl, mae Gweinidogion Cymru yn peidio â bod o dan ddyletswydd i’w hystyried a’i phenderfynu.
(11) Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) (ymchwiliadau lleol, tystiolaeth a chostau) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol a gynhelir yn unol â rheoliad 33 fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno, ond fel pe bai’r cyfeiriadau at y Gweinidog yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru a chan hepgor y cyfeiriadau at awdurdod lleol.
(12) Mae adran 322C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) (Costau: Cymru) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol o dan reoliad 30 fel y mae’n gymwys i wrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.
1990 p. 8. Fel y’i diwygiwyd gan adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: