Y penderfyniad sgrinio
7.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â pharagraff (2) a’r meini prawf dethol yn Atodlen 2, benderfynu a yw prosiect, neu ran ohono, yn brosiect sylweddol.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod prosiect, neu ran ohono, yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar safle Ewropeaidd, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill, ac nad yw’r prosiect yn uniongyrchol gysylltiedig â rheoli’r safle nac yn angenrheidiol i’w reoli, mae’r prosiect i gael ei drin fel pe bai’n brosiect sylweddol.
(3) Cyn gwneud penderfyniad sgrinio, caiff Gweinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff ymgynghori.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad sgrinio o fewn 35 o ddiwrnodau i—
(a)y dyddiad yn rheoliad 6(3); neu
(b)y dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw wybodaeth ychwanegol y maent wedi gofyn amdani o dan reoliad 6(2),
p’un bynnag yw’r diweddaraf.
(5) Caniateir estyn y cyfnod ym mharagraff (4) gyda chytundeb y ceisydd.
(6) Ar ôl gwneud penderfyniad sgrinio, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu’r ceisydd ohono o fewn y cyfnod sy’n gymwys o dan baragraff (4), gan roi’r rhesymau;
(b)ei nodi mewn cofrestr, sef cofrestr y mae’n rhaid i’r cyhoedd gael mynediad iddi ar bob adeg resymol; ac
(c)hysbysu unrhyw un neu ragor o’r cyrff ymgynghori y maent yn ystyried a all ddymuno cael gwybod am y penderfyniad sgrinio.
(7) Os bydd Gweinidogion Cymru yn methu â gwneud penderfyniad sgrinio neu’n methu â chyflwyno hysbysiad amdano o fewn y cyfnod ym mharagraff (4), caiff y ceisydd hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn bwriadu trin y methiant hwnnw fel penderfyniad bod y prosiect yn brosiect sylweddol.
(8) Pan fo’r ceisydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn unol â pharagraff (6), bernir bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod y prosiect yn brosiect sylweddol ar ddyddiad yr hysbysiad hwnnw.
(9) Ar ôl i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad, neu ar ôl y bernir eu bod wedi gwneud penderfyniad, fod y prosiect yn brosiect sylweddol—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth ychwanegol neu sylwadau ychwanegol; a
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, o ganlyniad i’r wybodaeth neu’r sylwadau, nad yw’r prosiect yn brosiect sylweddol,
rhaid i Weinidogion Cymru gymryd yr holl gamau a restrir ym mharagraff (6) mewn cysylltiad â’r penderfyniad hwnnw.
(10) Bydd y penderfyniad sgrinio yn peidio â chael effaith os nad yw’r prosiect y mae’n ymwneud ag ef yn dechrau o fewn cyfnod o 3 blynedd o’r dyddiad—
(a)yr hysbysir y ceisydd am y penderfyniad sgrinio; neu
(b)y bernir bod y penderfyniad sgrinio wedi ei wneud o dan baragraff (7).