RHAN 3Cydsyniad
Barnau cwmpasu9
1
Ar ôl cael penderfyniad sgrinio bod prosiect yn brosiect sylweddol, ond cyn gwneud cais am gydsyniad, caiff y ceisydd ofyn i Weinidogion Cymru roi eu barn ar ba wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).
2
Os yw’r ceisydd yn gofyn am farn gwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ceisydd ac unrhyw rai o’r cyrff ymgynghori sy’n briodol yn eu barn hwy, cyn rhoi eu barn.
3
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i roi barn gwmpasu, cânt ofyn i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arnynt ei hangen o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael y ceisiad am y farn gwmpasu.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r farn gwmpasu i’r ceisydd o fewn 5 wythnos—
a
i’r dyddiad y cawsant y farn gwmpasu; neu
b
pan fo’n gymwys, i’r dyddiad y cawsant yr wybodaeth ychwanegol o dan baragraff (3).