- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2)—
(a)rhaid i gais a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn gael ei ddyfarnu gan yr awdurdod cofrestru sy’n gyfrifol am y gofrestr lle cofnodir y tir y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef, neu awdurdod cofrestru sydd â’r pŵer i ddyfarnu ceisiadau ar ran awdurdod cofrestru o’r fath; a
(b)rhaid i awdurdod cofrestru sydd wedi gwneud cynnig yn unol â’r Rheoliadau hyn ddyfarnu pa un ai i ddiwygio ei gofrestrau yn unol â’r cynnig ai peidio.
(2) Yn yr achosion a bennir ym mharagraff (3), rhaid i awdurdod cofrestru gyfeirio at y person penodedig er mwyn iddo ddyfarnu—
(a)unrhyw gais a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn; a
(b)unrhyw gynnig a wneir gan yr awdurdod cofrestru yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(3) Yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod yw achosion pan fo gan yr awdurdod cofrestru fuddiant yng nghanlyniad y cais neu’r cynnig i’r graddau ei bod yn annhebygol y bydd hyder yng ngallu’r awdurdod i’w ddyfarnu’n ddiduedd, neu pan fo person sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir sy’n destun cais neu gynnig (neu rywun sy’n gweithredu ar ran person o’r fath) wedi gwneud (a heb dynnu’n ôl wedi hynny) sylwadau sy’n gyfystyr â gwrthwynebiad mewn cysylltiad â’r cais neu’r cynnig, ac—
(a)y gwneir y cais neu’r cynnig o dan adran 19(4) o Ddeddf 2006, a’i fod yn ceisio—
(i)ychwanegu tir at gofrestr, neu dynnu tir oddi ar gofrestr; neu
(ii)cywiro gwall o ran meintoliad hawliau comin mewn cofrestr; neu
(b)y gwneir y cais neu’r cynnig o dan unrhyw un o baragraffau 2 i 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.
(4) Pan fo’r awdurdod cofrestru yn cyfeirio cais neu gynnig at berson penodedig i’w ddyfarnu—
(a)rhaid i’r awdurdod cofrestru roi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at berson awdurdodedig i’w ddyfarnu;
(b)rhaid i’r awdurdod cofrestru anfon yr holl ddeunyddiau yn ei feddiant sy’n berthnasol i’r dyfarniad ynghylch y cais neu’r cynnig at y person penodedig;
(c)yn achos cais, caiff y person penodedig gyfarwyddo’r ceisydd i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy’n angenrheidiol i alluogi i’r cais gael ei ddyfarnu; a
(d)caiff y person penodedig gyfarwyddo’r awdurdod cofrestru i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy’n angenrheidiol i alluogi i’r cais neu’r cynnig gael ei ddyfarnu.
(5) Caiff y person penodedig bennu amser ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn.
(6) Os yw’r ceisydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn neu, os yw’n gymwys, yn methu â chydymffurfio o fewn yr amser a bennwyd, caiff y person penodedig drin y cais fel petai wedi ei ollwng.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: