- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
18.—(1) Pan benderfynwyd cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â chais neu gynnig, rhaid i’r awdurdod sy’n dyfarnu benodi arolygydd—
(a)i gynnal yr ymchwiliad; a
(b)os nad yr arolygydd sydd hefyd i ddyfarnu’r cais, i ddarparu adroddiad ac argymhelliad i’r awdurdod sy’n dyfarnu.
(2) Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r rheoliad hwn, ac i reoliad 20, mae’r weithdrefn ar gyfer yr ymchwiliad i’w phennu gan yr arolygydd, gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos.
(3) Pan nad yw’r arolygydd yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, caiff yr arolygydd roi’r cyfryw gyfarwyddydau yn baratoad at yr ymchwiliad ag y gellid bod wedi eu rhoi mewn cyfarfod o’r fath, ac nid yw rhoi cyfarwyddydau o dan y paragraff hwn yn atal cyfarfod cyn yr ymchwiliad rhag cael ei gynnal wedi hynny, os yw’r arolygydd yn ystyried ei bod yn ddymunol, nac ychwaith yn atal yr arolygydd rhag rhoi cyfarwyddydau pellach mewn cyfarfod o’r fath.
(4) Caiff unrhyw berson sydd â buddiant yn nhestun ymchwiliad ymddangos yn yr ymchwiliad drosto’i hun neu drwy gynrychiolydd.
(5) Caiff yr arolygydd, yn ystod unrhyw gam o ymchwiliad, atal unrhyw berson rhag—
(a)rhoi tystiolaeth;
(b)croesholi person sy’n rhoi tystiolaeth; neu
(c)cyflwyno unrhyw fater,
os yw’r arolygydd yn ystyried nad yw’n berthnasol neu ei fod yn ailadroddus.
(6) Os yw person yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, caiff yr arolygydd—
(a)ei gwneud yn ofynnol i berson adael ymchwiliad;
(b)rhwystro person rhag cymryd rhan yn yr ymchwiliad drwy roi tystiolaeth, croesholi person sy’n rhoi tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater; neu
(c)caniatáu i berson aros yn yr ymchwiliad, neu i gymryd rhan ynddo o dan amodau penodedig yn unig.
(7) Caiff yr arolygydd fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson a chanddo hawl i ymddangos ynddo.
(8) Caiff yr arolygydd gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu dystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall a ddaeth i law’r arolygydd oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau ymchwiliad neu yn ystod ymchwiliad ar yr amod bod yr arolygydd yn eu datgelu yn yr ymchwiliad.
(9) Caiff yr arolygydd, os bernir bod hynny’n rhesymol o dan yr amgylchiadau—
(a)gohirio ymchwiliad hyd ddyddiad arall;
(b)gohirio ymchwiliad er mwyn mynd i safle unrhyw dir yr effeithir arno gan y cais neu’r cynnig, a chynnal rhan o’r ymchwiliad ar y safle hwnnw ar y cyd ag arolygiad o’r safle.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: