RHAN 2Ceisiadau a chynigion i ddiwygio’r Cofrestrau

Gwneud cynnig7

1

Cyn cymryd unrhyw gamau eraill o dan y Rhan hon mewn perthynas â chynnig, rhaid i awdurdod cofrestru lunio datganiad ysgrifenedig yn disgrifio’r cynnig ac yn egluro’r cyfiawnhad drosto.

2

Ni chaiff awdurdod cofrestru fwrw ymlaen â chynnig o dan Atodlen 2 i Ddeddf 2006 oni bai ei fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1), a pharagraffau (2) i (5) o reoliad 11, ar 4 Mai 2032, neu cyn hynny.