NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddatgan gyda diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201678 (“Rheoliadau 2016”). Roedd Rheoliadau 2016 yn cydgrynhoi ac yn diweddaru offerynnau cynharach a oedd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (“Cyfarwyddeb 1985”) ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd79 o ran cynllunio gwlad a thref yng Nghymru.

Mae Cyfarwyddeb 1985 wedi ei disodli gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU (“y Gyfarwyddeb”) Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd80. Mae’r Gyfarwyddeb wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb yr UE 2014/52/EU81.

Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion gweithdrefnol mewn perthynas â rhoi caniatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 199082.

Mae’n ofynnol cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol (AEA) ar gyfer pob datblygiad yn Atodlen 1. Mae’n ofynnol cynnal AEA ar gyfer datblygiad yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sydd naill ai i’w wneud mewn ardal sensitif neu sy’n bodloni trothwy neu faen prawf yng ngholofn 2 os yw’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.

Y prif ddiwygiadau i Reoliadau 2016 yw:

Asesiad o’r effaith amgylcheddol

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal AEA cyn y rhoddir cydsyniad i ddatblygiad sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (“datblygiad AEA”).

Mae’r rheoliad 4 newydd yn disgrifio’r broses o asesu effeithiau amgylcheddol.

Sgrinio

Mae’r broses sgrinio wedi ei diwygio. Mae rheoliad 6(2) a (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio ddarparu gwybodaeth benodol, gan ystyried y meini prawf dethol yn Atodlen 3.

Yn unol â rheoliad 5(8), wrth wneud penderfyniad sgrinio, bellach rhaid i wneuthurwr y penderfyniad ystyried yr wybodaeth honno, y canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill yn ogystal â’r meini prawf dethol yn Atodlen 3. Mae’r meini prawf dethol hynny wedi eu diwygio.

Pan fo gwneuthurwr y penderfyniad yn mabwysiadu penderfyniad sgrinio rhaid iddo ddatgan y prif resymau dros wneud y penderfyniad yn ogystal â materion newydd eraill, yn unol â rheoliad 5(9).

Mae rheoliadau 6(6) a 7(6) yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniadau sgrinio gael eu gwneud yn ddim hwyrach nag o fewn 90 o ddiwrnodau o ddyddiad cyflwyno’r holl wybodaeth berthnasol oni bai bod amgylchiadau eithriadol a bod rheoliad 7(7) yn gymwys.

Cwmpasu

Mae rheoliad 14(2) yn gwneud newidiadau i natur yr wybodaeth y mae’n rhaid i berson ei darparu wrth ofyn am farn gwmpasu. Mae paragraff (6) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff sy’n gwneud y penderfyniad cwmpasu ystyried yr wybodaeth ychwanegol cyn mabwysiadu’r penderfyniad cwmpasu.

Datganiadau amgylcheddol

Mae’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad amgylcheddol wedi ei hehangu gan reoliad 17(3) ac Atodlen 4. Mae rheoliadau 4(4) a 17(4) yn cynnwys gofynion newydd mewn perthynas â datganiadau amgylcheddol.

Y penderfyniad ynghylch pa un ai i roi caniatâd cynllunio

Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth fanwl ynghylch y weithdrefn y mae’n rhaid i wneuthurwr y penderfyniad ei dilyn wrth benderfynu pa un ai i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef. Mae paragraff (2) yn cynnwys gofyniad i gasgliad gwneuthurwr y penderfyniad ar effeithiau sylweddol y datblygiad fod yn gyfoes ar yr adeg y mae’n penderfynu pa un ai i roi caniatâd cynllunio. Mae paragraff (4) yn nodi manylion y materion y mae’n rhaid i wneuthurwr y penderfyniad eu hystyried mewn perthynas â chamau unioni a mesurau monitro posibl.

Mae rheoliad 28 yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu gyda phenderfyniad ynghylch pa un ai i roi caniatâd cynllunio.

Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori

Mae rheoliad 19(2)(e) a diwygiadau a wnaed i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 201283 gan baragraff 1(3)(c) o Atodlen 9 yn darparu ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus sy’n para o leiaf 30 o ddiwrnodau.

Mae rheoliad 29(1)(d) yn gwneud darpariaeth ar gyfer darparu gwybodaeth fanylach i’r cyhoedd ar ôl gwneud penderfyniad mewn perthynas â pha un ai i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA.

Cosbau a gorfodi

Mae rheoliad 43 yn cynnwys dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i roi sylw i’r angen i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion ac amcanion y Gyfarwyddeb wrth iddynt arfer eu swyddogaethau gorfodi.

Gofynion eraill

Mae rheoliad 19 a diwygiadau a wnaed i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 gan baragraff 1(3)(h) o Atodlen 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill fod ar gael yn electronig i’w gweld.

Mae rheoliad 26 yn ofyniad i gyd-drefnu, pan fo’n briodol, AEA o dan y Rheoliadau hyn gydag unrhyw asesiad o dan reoliad 61 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 201084.

Mae rheoliad 58 yn gwneud darpariaeth i sicrhau nad oes dim gwrthdaro buddiannau a bod swyddogaethau wedi eu gwahanu’n briodol pan fydd y corff sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio hefyd yn wneuthurwr y penderfyniad ar y cais hwnnw. Mae’r darpariaethau penodol sy’n ymwneud â datblygiad gan awdurdod cynllunio lleol wedi eu dileu.

Gwnaed diwygiadau tebyg i’r prosesau yn Rhan 7 (Datblygiadau o Bwysigrwydd Cenedlaethol), Rhan 9 (Cyfyngiadau ar Roi Caniatâd), Rhan 10 (Datblygu Anawdurdodedig) a Rhan 11 (Ceisiadau ROMP).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.llyw.cymru.