RHAN 11LL+CCeisiadau ROMP

Cymhwysiad cyffredinol y Rheoliadau i geisiadau ROMPLL+C

55.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 8—

ystyr “awdurdod cynllunio mwynau perthnasol” (“relevant mineral planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol, oni bai am gyfarwyddyd o dan—

(a)

paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991;

(b)

paragraff 13 o Atodlen 13 i Ddeddf 1995; neu

(c)

paragraff 8 o Atodlen 14 i Ddeddf 1995,

am benderfynu ar y cais ROMP dan sylw;

ystyr “cais dilynol ROMP” (“ROMP subsequent application”) yw cais am gymeradwyo mater—

(a)

pan fo’r gymeradwyaeth yn ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo ar ôl penderfynu ar gais ROMP; a

(b)

pan fo rhaid cael y gymeradwyaeth cyn y caniateir dechrau ar neu barhau â’r datblygiad mwynau cyfan neu ran o’r datblygiad mwynau a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;

ystyr “cais ROMP” (“ROMP application”) yw cais i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i benderfynu ar yr amodau y bydd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt o dan—

mae i “cais ROMP amhenderfynedig” (“undetermined ROMP application”) yr un ystyr ag yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(2);

ystyr “cydsyniad dilynol ROMP” (“ROMP subsequent consent”) yw cydsyniad a roddir yn unol â chais dilynol ROMP;

ystyr “datblygiad ROMP” (“ROMP development”) yw datblygiad nad yw wedi digwydd eto ac sydd wedi ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio y mae cais ROMP wedi neu yn mynd i gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “ROMP” (“ROMP”) yw adolygiad o hen ganiatâd mwynau;

ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992(3).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a’r addasiadau a’r ychwanegiadau a nodir yn Atodlen 8, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)cais ROMP fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio;

(b)cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i gais dilynol;

(c)datblygiad ROMP fel y maent yn gymwys i ddatblygiad y mae cais am ganiatâd cynllunio yn, wedi neu yn mynd i gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef;

(d)awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fel y maent yn gymwys i awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)person sy’n gwneud cais ROMP fel y maent yn gymwys i geisydd am ganiatâd cynllunio;

(f)person sy’n gwneud cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i berson sy’n gwneud cais dilynol;

(g)penderfyniad ar gais ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd cynllunio; a

(h)rhoi cydsyniad dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i roi cydsyniad dilynol.

(3Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009 yn gymwys iddo;

(b)unrhyw apêl mewn perthynas â chais o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 55 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Diwygiwyd paragraff 6 gan O.S. 2004/3156 (Cy. 273). Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 1992/1492. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1892 ac O.S. 1997/3006.