Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2024.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, RHAN 12.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
56.—(1) Pan—
(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad y bwriedir ei gynnal yng Nghymru yn destun cais AEA ac yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE F1...; neu
(b)bod Gwladwriaeth AEE F2... sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gofyn iddynt,
rhaid i Weinidogion Cymru—
(i)anfon y manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac, os yn berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) i’r Wladwriaeth AEE cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na’r dyddiad cyhoeddi yn y London Gazette y cyfeirir ato yn is-baragraff (ii);
(ii)cyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (2) mewn hysbysiad yn y London Gazette, ac os yw’n berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) a chyfeiriad lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael; a
(iii)rhoi amser rhesymol i’r Wladwriaeth AEE ddynodi a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer.
(2) Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(i) yw—
(a)disgrifiad o’r datblygiad ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar ei effaith sylweddol bosibl ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE F3...; a
(b)gwybodaeth ynghylch natur y penderfyniad y caniateir ei wneud.
(3) Pan fo Gwladwriaeth AEE yn dynodi, yn unol â pharagraff (1)(b)(iii), ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno cyn gynted ag y bo modd—
(a)copi o’r cais dan sylw;
(b)manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais;
(c)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r datblygiad;
(d)copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad; a
(e)gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn,
ond dim ond i’r graddau nad yw gwybodaeth o’r fath wedi ei darparu i’r Wladwriaeth AEE yn gynharach yn unol â pharagraff (1)(b)(i).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau bod y Wladwriaeth AEE dan sylw yn cael cyfle, cyn y rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, i anfon ymlaen at Weinidogion Cymru o fewn cyfnod rhesymol, farn y cyhoedd a’r awdurdodau sy’n debygol o fod â phryderon yn sgîl y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol am yr wybodaeth a ddarperir.
(5) Rhaid i Weinidogion CymruF4...—
(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE dan sylw ynghylch, ymysg pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd y Wladwriaeth AEE honno a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
(b)penderfynu ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE F5... ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori.
(6) Pan ymgynghorir â Gwladwriaeth AEE yn unol â pharagraff (5) ar benderfyniad ynghylch y cais dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Wladwriaeth AEE am y penderfyniad ac anfon ati gopi o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 28.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 56 pennawd wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(11)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F2Gair yn rhl. 56(1)(b) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(11)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F3Gair yn rhl. 56(2)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(11)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F4Geiriau yn rhl. 56(5) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(11)(b)(i); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F5Gair yn rhl. 56(5)(b) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(11)(b)(ii); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 56 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
57.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE F7...F8... a gasglwyd oddi wrth ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE F7... gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddyntF9...—
(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
(b)cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect, penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, F10....
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
(a)trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol ac am gyfnod nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â phryderon ynghylch y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;
(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr [F11awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb] o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect; ac
(c)sicrhau bod unrhyw wybodaeth a geir gan [F12awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb] .
Diwygiadau Testunol
F6Gair yn rhl. 57 heading wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F7Gair yn rhl. 57(1) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(b)(i); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F8Geiriau yn rhl. 57(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(b)(ii); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F9Geiriau yn rhl. 57(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(b)(iii); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F10Geiriau yn rhl. 57(1)(b) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(b)(iv); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F11Geiriau yn rhl. 57(2)(b) wedi eu hamnewid (7.3.2019) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(c)(i)
F12Geiriau yn rhl. 57(2)(c) wedi eu hamnewid (7.3.2019) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(c)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 57 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: