RHAN 12Datblygiad ag Effeithiau Trawsffiniol Sylweddol
Datblygiad yng Nghymru sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE F3...I156
1
Pan—
a
y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad y bwriedir ei gynnal yng Nghymru yn destun cais AEA ac yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE F3...; neu
b
bod Gwladwriaeth AEE F4... sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gofyn iddynt,
rhaid i Weinidogion Cymru—
i
anfon y manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac, os yn berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) i’r Wladwriaeth AEE cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na’r dyddiad cyhoeddi yn y London Gazette y cyfeirir ato yn is-baragraff (ii);
ii
cyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (2) mewn hysbysiad yn y London Gazette, ac os yw’n berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) a chyfeiriad lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael; a
iii
rhoi amser rhesymol i’r Wladwriaeth AEE ddynodi a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer.
2
Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(i) yw—
a
disgrifiad o’r datblygiad ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar ei effaith sylweddol bosibl ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE F5...; a
b
gwybodaeth ynghylch natur y penderfyniad y caniateir ei wneud.
3
Pan fo Gwladwriaeth AEE yn dynodi, yn unol â pharagraff (1)(b)(iii), ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno cyn gynted ag y bo modd—
a
copi o’r cais dan sylw;
b
manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais;
c
copi o unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r datblygiad;
d
copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad; a
e
gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn,
ond dim ond i’r graddau nad yw gwybodaeth o’r fath wedi ei darparu i’r Wladwriaeth AEE yn gynharach yn unol â pharagraff (1)(b)(i).
4
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau bod y Wladwriaeth AEE dan sylw yn cael cyfle, cyn y rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, i anfon ymlaen at Weinidogion Cymru o fewn cyfnod rhesymol, farn y cyhoedd a’r awdurdodau sy’n debygol o fod â phryderon yn sgîl y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol am yr wybodaeth a ddarperir.
5
Rhaid i Weinidogion CymruF6...—
a
cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE dan sylw ynghylch, ymysg pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd y Wladwriaeth AEE honno a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
b
penderfynu ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE F7... ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori.
6
Pan ymgynghorir â Gwladwriaeth AEE yn unol â pharagraff (5) ar benderfyniad ynghylch y cais dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Wladwriaeth AEE am y penderfyniad ac anfon ati gopi o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 28.
Prosiectau mewn Gwladwriaeth AEE F8... sy’n debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddolI257
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE F9...F10... a gasglwyd oddi wrth ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE F9... gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddyntF11...—
a
cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
b
cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect, penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, F12....
2
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
a
trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol ac am gyfnod nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â phryderon ynghylch y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;
b
sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr F1awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect; ac
c
sicrhau bod unrhyw wybodaeth a geir gan F2awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb .