RHAN 12LL+CDatblygiad ag Effeithiau Trawsffiniol Sylweddol

Datblygiad yng Nghymru sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE F1...LL+C

56.—(1Pan—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad y bwriedir ei gynnal yng Nghymru yn destun cais AEA ac yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE F1...; neu

(b)bod Gwladwriaeth AEE F2... sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gofyn iddynt,

rhaid i Weinidogion Cymru—

(i)anfon y manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac, os yn berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) i’r Wladwriaeth AEE cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na’r dyddiad cyhoeddi yn y London Gazette y cyfeirir ato yn is-baragraff (ii);

(ii)cyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (2) mewn hysbysiad yn y London Gazette, ac os yw’n berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) a chyfeiriad lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael; a

(iii)rhoi amser rhesymol i’r Wladwriaeth AEE ddynodi a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer.

(2Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(i) yw—

(a)disgrifiad o’r datblygiad ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar ei effaith sylweddol bosibl ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE F3...; a

(b)gwybodaeth ynghylch natur y penderfyniad y caniateir ei wneud.

(3Pan fo Gwladwriaeth AEE yn dynodi, yn unol â pharagraff (1)(b)(iii), ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno cyn gynted ag y bo modd—

(a)copi o’r cais dan sylw;

(b)manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais;

(c)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r datblygiad;

(d)copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad; a

(e)gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn,

ond dim ond i’r graddau nad yw gwybodaeth o’r fath wedi ei darparu i’r Wladwriaeth AEE yn gynharach yn unol â pharagraff (1)(b)(i).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau bod y Wladwriaeth AEE dan sylw yn cael cyfle, cyn y rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, i anfon ymlaen at Weinidogion Cymru o fewn cyfnod rhesymol, farn y cyhoedd a’r awdurdodau sy’n debygol o fod â phryderon yn sgîl y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol am yr wybodaeth a ddarperir.

(5Rhaid i Weinidogion CymruF4...—

(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE dan sylw ynghylch, ymysg pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd y Wladwriaeth AEE honno a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a

(b)penderfynu ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE F5... ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori.

(6Pan ymgynghorir â Gwladwriaeth AEE yn unol â pharagraff (5) ar benderfyniad ynghylch y cais dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Wladwriaeth AEE am y penderfyniad ac anfon ati gopi o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 28.

Diwygiadau Testunol

F1Gair yn rhl. 56 pennawd wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(11)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 56 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Prosiectau mewn Gwladwriaeth AEE F6... sy’n debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddolLL+C

57.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE F7...F8... a gasglwyd oddi wrth ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE F7... gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddyntF9...—

(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a

(b)cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect, penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, F10....

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—

(a)trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol ac am gyfnod nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â phryderon ynghylch y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr [F11awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb] o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect; ac

(c)sicrhau bod unrhyw wybodaeth a geir gan [F12awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 57 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)