Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2019
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/11/2017.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, RHAN 13.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
58.—(1) Pan fo gan awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gyflawni’r ddyletswydd honno mewn modd gwrthrychol er mwyn osgoi sefyllfa sy’n arwain at wrthdaro buddiannau.
(2) Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn gweithredu fel datblygwr a bod yr awdurdod hwnnw neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, hefyd yn gyfrifol am benderfynu ar ei gynnig ei hun neu eu cynnig eu hunain, rhaid i’r awdurdod hwnnw neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, wneud trefniadau gweinyddol priodol er mwyn sicrhau bod gwahanu swyddogaethau rhwng y personau hynny sy’n gwneud cais am ganiatâd i ddatblygu, neu y mae caniatâd i ddatblygu yn ofynnol iddynt, a’r personau sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cynnig hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 58 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
59. At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288(1)(b)(1) nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990 yn cynnwys peidio â chaniatáu rhoi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol oherwydd rheoliadau 3 neu 44.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 59 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
60. Mae newid yn nefnydd tir neu adeiladau i ddefnydd at ddiben a grybwyllir ym mharagraff 9 o Atodlen 1 yn cynnwys newid sylweddol yn y defnydd o’r tir hwnnw neu’r adeiladau hynny at ddibenion adran 55(1) o Ddeddf 1990 (ystyr “datblygiad” a “datblygiad newydd”).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 60 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
61.—(1) At ddibenion adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), o ran penderfynu ar yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad—
(a)pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 11(1) bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw,
nid oes unrhyw ystyriaeth i’w roi i unrhyw gyfnod cyn dyroddi’r cyfarwyddyd.
(2) Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012 yn cael effaith fel pe bai—
(a)pob un o’r cyfeiriadau yn erthyglau 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos; a
(b)y cyfeiriad yn erthygl 22(2)(aa)(2) at y cyfnod o 12 wythnos yn gyfeiriad at y cyfnod o 20 wythnos.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 61 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
62. Rhaid i ddarpariaethau a gynhwysir mewn gorchymyn datblygu yn rhinwedd adran 60 o Ddeddf 1990 (caniatâd a roddir gan orchymyn datblygu)(3) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau, eu galluogi i gyfarwyddo bod datblygiad sydd o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2, a hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 62 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
63.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru heblaw cais o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatad cynllunio), rhaid darllen rheoliad 12 (cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)cyn “atgyfeirio” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “wneud i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: cais)(4) neu ei”; a
(ii)cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”;
(b)ym mharagraff (2), cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”; ac
(c)ym mharagraff (3), cyn “a atgyfeiriwyd” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “a wnaed o dan adran 293A o Ddeddf 1990 neu”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 63 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
64. Mae’r offerynnau yn Atodlen 9 wedi eu diwygio i’r graddau a nodir yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 64 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
65.—(1) Mae Rheoliadau 2016 wedi eu dirymu, ond mae hynny’n ddarostyngedig i baragraffau (2) i (8).
(2) Pan fo’r amod ym mharagraff (3) yn gymwys mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)cais am ganiatâd cynllunio;
(b)cais ROMP y mae Rheoliadau 2016 yn gymwys iddo;
(c)apêl mewn perthynas â chais o fewn is-baragraff (a) neu (b);
(d)mater y mae awdurdod cynllunio lleol wedi dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 o Ddeddf 1990.
(3) At ddibenion paragraff (2), yr amod yw bod y ceisydd neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), cyn 16 Mai 2017, wedi—
(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu
(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol,
mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r cais neu’r apêl yn ymwneud ag ef.
(4) Pan fo’r amod ym mharagraff (5) yn gymwys mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;
(b)gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig.
(5) At ddibenion paragraff (4), yr amod yw fod yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd (yn ôl y digwydd), cyn 16 Mai 2017, wedi—
(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu
(b)llunio datganiad amgylcheddol,
mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud ag ef.
(6) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â cham gweithredu arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990 pan fo’r ceisydd, fel y’i diffinnir ym mharagraff 3 o Atodlen 7, cyn 16 Mai 2017, wedi—
(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu
(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol,
mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r cam gweithredu arfaethedig yn ymwneud ag ef.
(7) Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â—
(a)gofyniadau am farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio;
(b)barnau sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol; ac
(c)cyfarwyddydau sgrinio a wneir gan Weinidogion Cymru,
pan fo, cyn 16 Mai 2017, y fath ofyniadau wedi eu gwneud, neu pan fo’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) wedi cychwyn gwneud barnau sgrinio neu gyfarwyddydau sgrinio neu wedi cychwyn mabwysiadu barnau neu gyfarwyddydau o’r fath.
(8) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(5).
(9) Yn unol â hynny, nid yw’r Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn) yn gymwys mewn cysylltiad â datblygiad y mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith arno yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8).
(10) Yn y rheoliad hwn—
mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”), “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) a “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2016;
mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 55(1); ac
ystyr “Rheoliadau 2016” (“2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 65 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
66. Mae’r offerynnau yn Atodlen 10 wedi eu diwygio i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 66 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
Diwygiwyd adran 288(1)(b) gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), adran 27 ac Atodlen 4, paragraff 16.
Mewnosodwyd is-baragraff (aa) o erthygl 22(2) gan erthygl 11(b) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59 (Cy. 29)).
Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”) ac fe’i diwygiwyd gan adran 16 ac Atodlen 2, paragraffau 8 a 9 ac adran 27 a pharagraffau 1 a 17(1) i (3) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae adran 118(3) o Ddeddf 2004 yn darparu bod rhaid cymryd bod cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) at ddeddfiad a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2004 yn gyfeiriad at y deddfiad fel y’i diwygiwyd felly.
O.S. 2009/3342 (Cy. 293) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/755 (Cy. 90) ac O.S. 2016/58 (Cy. 28) gweler ar gyfer ceisiadau ROMP a wnaed cyn 15 Tachwedd 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: