26.—(1) Pan fo, mewn perthynas â datblygiad AEA, ofyniad i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd hefyd yn ogystal â’r gofyniad i gynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol (neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd) sicrhau pan fo’n briodol bod yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a’r asesiad o’r effaith amgylcheddol yn cael eu cyd-drefnu.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd” (“Habitats Regulations Assessment”) yw asesiad o dan [F1reoliad 63 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017] .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 26(1) wedi eu hamnewid (30.11.2017) gan The Conservation of Habitats and Species Regulations 2017 (O.S. 2017/1012), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 78(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 26 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)