RHAN 7Argaeledd Cyfarwyddydau etc. a Hysbysu am Benderfyniadau
Argaeledd barnau, cyfarwyddydau etc. i’w harchwilioI127
1
Pan fo manylion am gais cynllunio neu gais dilynol yn cael eu gosod yn Rhan 1 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod copi yn cael eu gosod yn y Rhan honno hefyd o unrhyw—
a
barn sgrinio;
b
cyfarwyddyd sgrinio;
c
barn gwmpasu;
d
cyfarwyddyd cwmpasu;
g
datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall;
h
datganiad o resymau sy’n dod gydag unrhyw rai o’r uchod.
2
Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol—
a
yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu; neu
b
yn cael gofyniad o dan reoliad 14(1), neu 15(1), neu gopi o gyfarwyddyd sgrinio, cyfarwyddyd cwmpasu, neu gyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) cyn y gwneir cais am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol ar gyfer y datblygiad dan sylw,
rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn, y cais neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n dod gydag ef neu hi yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr honno).
3
Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael yn y modd hwn am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y gosodir hwy ar y gofrestr.
Gwybodaeth i fynd gyda phenderfyniadauI228
1
Pan fo cais neu apêl AEA y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi yn cael ei benderfynu neu ei phenderfynu gan awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, rhaid i’r person sy’n gwneud y penderfyniad hwnnw ddarparu i’r ceisydd neu’r apelydd yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).
2
Yr wybodaeth honno yw—
a
gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny; a
b
os yw’n benderfyniad i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol—
i
ii
unrhyw amodau y mae’r penderfyniad yn ddarostyngedig iddynt sy’n ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd;
iii
disgrifiad o unrhyw un neu ragor o nodweddion y datblygiad ac unrhyw fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl; a
iv
unrhyw fesurau monitro y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ystyried eu bod yn briodol; neu
c
os yw’n benderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, y prif resymau dros wrthod.
Dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynolI329
1
Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i’r awdurdod wneud y canlynol yn brydlon—
a
hysbysu Gweinidogion Cymru am y penderfyniad drwy ddulliau electronig;
b
hysbysu’r ymgynghoreion am y penderfyniad;
c
hysbysu’r cyhoedd am y penderfyniad, drwy hysbyseb leol, neu drwy’r fath ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; a
d
sicrhau bod datganiad yn cael ei roi ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu’r rhan berthnasol o’r gofrestr honno), sy’n cynnwys—
i
manylion y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 28(2);
ii
y prif resymau ac ystyriaethau y mae’r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yw’n berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;
iii
crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd a’r wybodaeth a gasglwyd, mewn cysylltiad â’r cais a sut y mae’r canlyniadau hynny, yn enwedig y sylwadau a gafwyd gan Wladwriaeth AEE yn unol ag ymgynghoriad o dan reoliad 56, wedi eu hymgorffori neu sut yr ymdriniwyd â hwy fel arall.
2
Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol am y penderfyniad; a
b
darparu datganiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) i’r awdurdod.
3
Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (2)(a), gydymffurfio ag is-baragraffau (b) i (d) o baragraff (1) mewn perthynas â’r penderfyniad yr hysbyswyd amdano yn y modd hwn fel pe bai’n benderfyniad yr awdurdod.