xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CCyfyngiadau ar Roi Caniatâd

Cynlluniau parth cynllunio wedi eu symleiddio neu orchmynion parth menter newyddLL+C

38.  Ni chaiff—

(a)mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun parth cynllunio wedi ei symleiddio(1);

(b)gorchymyn sy’n dynodi parth menter a wnaed o dan adran 88 o Ddeddf 1990; neu

(c)cymeradwyo cynllun wedi ei addasu mewn perthynas â pharth menter o’r fath,

wneud y canlynol—

(i)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu

(ii)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 2 oni bai bod y caniatâd hwnnw yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i fabwysiadu barn sgrinio yn flaenorol neu cyn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad arfaethedig penodol yn ddatblygiad AEA.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 38 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gorchmynion datblygu lleolLL+C

39.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 y mae awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddo drwy orchymyn datblygu lleol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol oni bai ei fod naill ai wedi gofyn am farn sgrinio a’i mabwysiadu neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio;

(b)mae rheoliad 7(1) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “yn unol â rheoliad 6(8)” wedi eu hepgor;

(c)mae rheoliadau 6(2) i (9), 7 ac 8 yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau—

(i)at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn datblygu lleol;

(ii)at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am fabwysiadu neu ddiwygio’r gorchymyn datblygu lleol;

(iii)at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr awdurdod; a

(iv)at gais Atodlen 2 yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn datblygu lleol i roi caniatâd cynllunio i ddatblygiad Atodlen 2.

(3Mae paragraff (4) ac Atodlen 5 yn gymwys—

(a)pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio,

i’r perwyl bod y datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA.

(4Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 2 sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau megis natur, maint neu leoliad y datblygiad oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 39 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gorchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102LL+C

40.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu gwneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 sy’n addasu unrhyw ganiatâd i ddatblygu tir neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio.

(2Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol na Gweinidogion Cymru wneud na chadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 oni bai bod yr awdurdod wedi gofyn am farn sgrinio a’i mabwysiadu neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.

(3Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)nid yw rheoliad 6(4) yn gymwys;

(b)mae rheoliad 7(1) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “yn unol â rheoliad 6(8)” wedi eu hepgor;

(c)mae rheoliadau 6(2), (4), (5) i (9) a 7(1), (3) i (9) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau—

(i)at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig am orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(ii)at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at y corff sy’n gyfrifol am wneud y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102;

(iii)at y ceisydd yn gyfeiriadau at y corff cychwyn; a

(iv)at gais Atodlen 1 neu gais Atodlen 2 yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 a fyddai’n rhoi neu’n addasu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2 yn y drefn honno.

(4Mae paragraffau (5) a (6) ac Atodlen 6 yn gymwys yn y naill achos neu’r llall—

(a)i ddatblygiad Atodlen 1;

(b)pan fo naill ai—

(i)yr awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu

(ii)Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn,

i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(5Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud gorchymyn adran 97 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

(6Ni chaiff Gweinidogion Cymru gadarnhau na gwneud gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 40 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Camau gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990LL+C

41.—(1Mae’r rheoliad hwn ac Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan Weinidogion Cymru o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990(2).

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad prynu o dan adran 139(4) o Ddeddf 1990, ni chaiff Gweinidogion Cymru addasu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA neu roi cyfarwyddyd, os y gwneir cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 41 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Gweler y diffiniad o “simplified planning zone” yn adran 336 o Ddeddf 1990.

(2)

Mae adran 141 o Ddeddf 1990 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd camau penodol mewn perthynas â chaniatâd cynllunio yn hytrach na chadarnhau hysbysiad prynu a gyflwynir iddynt yn unol ag adran 140 o Ddeddf 1990. Gellir cyflwyno hysbysiad prynu i gyngor yn unol ag adran 137 o Ddeddf 1990.