RHAN 3Gweithdrefnau Ynghylch Ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio
Cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddolI111
1
Pan nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cael ei gyflwyno â chais AEA i awdurdod cynllunio lleol er mwyn penderfynu arno, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.
2
Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.
3
Rhaid i awdurdod hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1)—
a
o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r ceisydd; neu
b
pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl terfyn y 21 diwrnod hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno, yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, o fewn 7 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod gopi o’r cyfarwyddyd sgrinio hwnnw.
4
Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad yn unol â pharagraff (1) ysgrifennu at yr awdurdod o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, i ddatgan—
a
bod y ceisydd yn derbyn ei farn ac yn darparu datganiad amgylcheddol; neu
b
oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn cael ei fodloni, bod y ceisydd yn ysgrifennu at Weinidogion Cymru i ofyn am gyfarwyddyd sgrinio.
5
At ddiben paragraff (4)(b) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio mewn cysylltiad â’r datblygiad—
a
yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu
b
yn unol â chais dilynol,
yn ôl y digwydd.
6
Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu at yr awdurdod yn unol â pharagraff (4), tybir bod y caniatâd neu’r cydsyniad dilynol a geisir wedi ei wrthod ar ddiwedd y cyfnod perthnasol o 21 o ddiwrnodau, oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn cael ei fodloni a bod y gwrthodiad tybiedig—
a
yn cael ei drin fel penderfyniad yr awdurdod at ddibenion erthygl 29(3)(c) (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn 2012; ond
b
nad yw’n arwain at apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)27.
7
At ddibenion paragraff (6) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA—
a
yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu
b
yn unol â chais dilynol,
yn ôl y digwydd.
8
Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i awdurdod sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) benderfynu ar y cais perthnasol drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol os nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6).
9
Rhaid i berson sy’n gofyn am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (4)(b) anfon copïau o’r canlynol at Weinidogion Cymru gyda’r gofyniad—
a
y gofyniad i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad >6(1) a’r dogfennau a oedd yn dod gydag ef;
b
unrhyw hysbysiad a wnaed o dan reoliad 6(4) ac unrhyw ymateb a anfonwyd gan y person hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol;
c
y cais;
d
pob dogfen a anfonwyd i’r awdurdod yn rhan o’r cais;
e
pob gohebiaeth rhwng y ceisydd a’r awdurdod sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig;
f
unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad; ac
g
yn achos cais dilynol, dogfennau neu wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad,