xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
18.—(1) Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol ei gyflwyno yn electronig ac ar bapur, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.
(2) Os yw’r ceisydd yn cyflwyno copi o’r datganiad i unrhyw gorff arall ar yr un pryd ag y mae’n gwneud cais AEA, rhaid i’r ceisydd—
(a)cyflwyno gyda’r datganiad gopi o’r cais ac unrhyw blan a gyflwynir gyda’r cais (oni bai eu bod wedi eu darparu i’r corff dan sylw eisoes);
(b)hysbysu’r corff y caniateir cyflwyno sylwadau i’r awdurdod cynllunio perthnasol; ac
(c)hysbysu’r awdurdod am enw pob corff y cyflwynwyd datganiad iddo felly a dyddiad y cyflwyno.
(3) Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol yn cael datganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod—
(a)anfon un copi electronig o’r datganiad, copi o’r cais perthnasol ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais i Weinidogion Cymru o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl cael y datganiad;
(b)hysbysu’r ceisydd am nifer y copïau sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r awdurdod i gydymffurfio ag is-baragraff (c);
(c)anfon copi o’r datganiad ymlaen at unrhyw ymgynghorai nad yw wedi cael copi yn uniongyrchol gan y ceisydd, a hysbysu unrhyw ymgynghorai o’r fath y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;
(d)pan fo’r awdurdod yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol sy’n cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, neu drwy hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, anfon hysbysiad at berson o’r fath yn cynnwys y manylion a nodir yn rheoliad 19(2)(b) i (k) ac enw a chyfeiriad yr awdurdod.
(4) Rhaid i’r ceisydd anfon y copïau sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (3)(c) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(5) Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i gais dilynol fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 fel pe bai’r cyfeiriad yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 at “ganiatâd cynllunio i” yn darllen “gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth i”.
(6) Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol beidio â phenderfynu ar y cais hyd nes y daw 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 18 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)