21.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd neu apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â chais AEA—
(a)sydd gerbron Gweinidogion Cymru neu arolygydd er mwyn penderfynu arno; neu
(b)sy’n destun apêl i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gyflwyno’r datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru a’r awdurdod cynllunio perthnasol yn electronig ac ar bapur, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.
(3) Caiff ceisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru ddarparu copi ohono i unrhyw gorff arall, ac os gwneir hynny rhaid iddo—
(a)cydymffurfio ag is-baragraffau (a) a (b) o reoliad 18(2) fel pe bai’r cyfeiriad yn rheoliad 18(2)(b) at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru; a
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru o’r materion a grybwyllir yn rheoliad 18(2)(c).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rheoliad 18(3) (heblaw is-baragraff (a) o’r rheoliad hwnnw) a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gydymffurfio â rheoliad 18(4) fel pe bai—
(a)cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a
(b)yn achos apêl, cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd,
a rhaid i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd gydymffurfio â rheoliad 18(6) fel pe bai’n cyfeirio at Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn hytrach na’r awdurdod cynllunio perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 21 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)