xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
25.—(1) Wrth benderfynu ar gais neu apêl y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd—
(a)archwilio’r wybodaeth amgylcheddol;
(b)dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, gan ystyried yr archwilio y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) a, phan fo’n briodol, eu harchwiliad ategol eu hunain;
(c)integreiddio’r casgliad hwnnw yn y penderfyniad o ran pa un ai i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol; a
(d)os rhoddir caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, ystyried pa un a yw’n briodol gosod mesurau monitro.
(2) Rhaid i’r casgliad rhesymedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyfoes pan wneir y penderfyniad; a rhaid tybio bod y casgliad hwnnw yn gyfoes os ydyw, ym marn yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ymdrin â’r effeithiau sylweddol sy’n debygol o ddigwydd o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig.
(3) Wrth ystyried pa un ai i osod mesur monitro o dan baragraff (1)(d), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol—
(a)os ystyrir bod monitro yn briodol, ystyried pa un ai i wneud darpariaeth ar gyfer camau unioni posibl;
(b)cymryd camau i sicrhau bod y math o baramedrau sydd i’w monitro, a hyd y cyfnod monitro, yn gymesur â natur, lleoliad a maint y datblygiad arfaethedig ac arwyddocâd ei effeithiau ar yr amgylchedd; ac
(c)ystyried, er mwyn osgoi dyblygu monitro, pa un a yw trefniadau monitro sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb (ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb) neu ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys yng Nghymru yn fwy priodol na gosod mesurau monitro.
(4) Mewn achosion pan nad oes amserlen statudol wedi ei phennu, rhaid i benderfyniad yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol, gan ystyried natur a chymhlethdod y datblygiad arfaethedig, o’r dyddiad y darparwyd yr wybodaeth amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 25 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)