Cyfarwyddydau cwmpasuLL+C
33.—(1) Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd cwmpasu.
(2) Rhaid i ofyniad o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;
(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd;
(d)datganiad y gofynnir am gyfarwyddyd mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990; ac
(e)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y gofyniad ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno.
(3) Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r gofyniad hwnnw a’r dogfennau sy’n dod gyda’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(4) Os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol ar gyfer gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y gofyniad.
(5) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hyn.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a
(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi at y person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.
(8) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datblygiad arfethedig;
(b)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;
(c)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; a
(d)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt yn sylweddol.
(9) Nid oes dim yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig.
(10) Ystyr “Gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 33 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)