xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CCyfyngiadau ar Roi Caniatâd

Camau gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990LL+C

41.—(1Mae’r rheoliad hwn ac Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan Weinidogion Cymru o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990(1).

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad prynu o dan adran 139(4) o Ddeddf 1990, ni chaiff Gweinidogion Cymru addasu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA neu roi cyfarwyddyd, os y gwneir cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 41 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mae adran 141 o Ddeddf 1990 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd camau penodol mewn perthynas â chaniatâd cynllunio yn hytrach na chadarnhau hysbysiad prynu a gyflwynir iddynt yn unol ag adran 140 o Ddeddf 1990. Gellir cyflwyno hysbysiad prynu i gyngor yn unol ag adran 137 o Ddeddf 1990.